Dydd Mawrth y diwrnod poethaf ar gofnod ym mis Mai
Dydd Mawrth yw'r diwrnod poethaf ar gofnod ar gyfer mis Mai yn y Deyrnas Unedig, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Cafodd tymheredd o 35C ei gofnodi yn Heathrow a Gerddi Kew yn Llundain.
Mewn neges ar X, dywedodd y Swyddfa Dywydd: “Heddiw yw’r diwrnod poethaf ym mis Mai erioed gyda Heathrow a Gerddi Kew yn cyrraedd 35.0C.
“Hyd at ddoe, y tymheredd uchaf ym mis Mai oedd 32.8C, ond rydym bellach wedi rhagori ar y record honno ar ddiwrnodau yn olynol o ddwy radd Celsius.”
Yma yng Nghymru mae'r cyfnod o dywydd poeth eithafol hefyd wedi parhau, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 32C yng Nghaerdydd, a 30C yn Wrecsam, Caerfyrddin, Y Drenewydd a Threfynwy.
Mae'r RNLI wedi rhybuddio'r cyhoedd am nofio mewn dyfroedd agored yn dilyn marwolaethau pedwar person ifanc mewn digwyddiadau gwahanol yn Lloegr yn ystod y cyfnod poeth.
Er bod y tymheredd wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed ar gyfer mis Mai, dywedodd yr elusen fod tymheredd y dŵr wedi aros yn isel a gallai arwain at sioc dŵr oer.
Gall hyn arwain at gynnydd sydyn yng nghyfradd y galon a phwysedd gwaed wrth i'r corff ymateb i ddŵr oer.
Yn yr achosion gwaethaf, gall hyd yn oed nofwyr profiadol foddi gan na all eu cyrff ymdopi â'r newid mewn tymheredd.
Dywedodd yr RNLI mewn datganiad ddydd Mawrth: “Er bod tymheredd yr aer yn gynnes, mae'r moroedd yn dal yn oer ac mae sioc dŵr oer yn parhau i fod yn risg real iawn. “Gyda llawer o blant ysgol yn mwynhau hanner tymor, mae'r elusen sy'n achub bywydau yn annog pawb i aros yn ddiogel.”
Daw'r rhybudd ar ôl i heddluoedd yn Sir De Efrog, Sir Gorllewin Efrog, Sir Warwick, Sir Lincoln a Dyfnaint a Chernyw gael eu galw i argyfyngau dŵr agored angheuol yn ymwneud â phedwar o bobl ifanc ac un dyn yn ei 60au.
Ac mae Dŵr Cymru yn annog pobl i gadw draw o gronfeydd dŵr dros wyliau hanner tymor wrth i’r tywydd poeth ddenu pobl allan i ymweld â mannau hardd ledled Cymru.
Dywedodd llefarydd: "Yn ystod y cyfnod yma o dywydd braf, mae Dŵr Cymru’n atgoffa’r cyhoedd bod cronfeydd dŵr yn gallu bod yn llefydd peryglus dros ben, er eu bod nhw’n edrych mor llonydd a diogel.
"Mae yna beryglon cudd mewn cronfeydd dŵr, gan gynnwys dŵr oer a dwfn iawn, ymylon serth iawn, cerhyntau cryf, a pheiriannau o dan wyneb y dŵr. Gall y nofwyr cryfaf hyd yn oed fynd i drafferthion yn ddirybudd, ac mae’r ffaith fod llawer o gronfeydd mewn mannau anghysbell yn gallu golygu bod achub yn fwy heriol."
Llun: PA