'Bydd rhaid i fi edrych ar symud i Loegr': Nyrs yn poeni am ei dyfodol yn sgil diffyg swyddi
Mae nyrs gymwysedig o dde Cymru yn pryderu am ei dyfodol yn y sector oherwydd diffyg swyddi.
Mae Olivia Walwyn, nyrs argyfwng o Gwm Rhymni, yn pryderu y bydd angen iddi symud i Loegr i gael sicrwydd swydd yn dilyn rhewi ar recriwtio mewn rhannau o’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru (GIG).
Fe weithiodd Olivia drwy gydol y pandemig Covid-19 ar y rheng flaen, ond bellach mae hi’n gweithio fel gyrrwr i gwmni dosbarthu parseli.
“Dwi’n meddwl bydd pobl yn dechrau edrych am swyddi eraill achos nid yw’r GIG yn edrych ar ôl staff," meddai.
"Rydym ni wedi gweithio mor galed i 'neud hyn ond pam aros os nad ydyn ni’n cael ein hamddiffyn?”
Rhewi
Mae byrddau iechyd yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi atal neu gyfyngu'n sylweddol ar recriwtio allanol ar gyfer swyddi i staff sydd newydd gymhwyso oherwydd cyfyngiadau ariannol difrifol a gwelliannau o ran cadw staff yn y GIG.
Yn ôl corff Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mae bron i 400 o raddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yn parhau heb waith yn y GIG ar ôl i’r broses o ganfod rolau addas iddyn nhw orffen yn 2026.
Dywedodd Olivia: “Mae’r cwrs nyrsio argyfwng nes i yn Abertawe wedi stopio oherwydd bod dim digon o swyddi ar ôl. Nid hyn yw’r ateb hir dymor. Mae hynny’n 30 llai o baramedics. Os ydyn nhw’n gwneud hyn gyda doctoriaid neu bydwragedd, beth fydd yn digwydd wedyn?”
Ers y cyfnod Covid, mae mwy o staff wedi aros yn eu swyddi, sy'n golygu bod llai o bobl wedi gadael y GIG, a bod llai o swyddi gwag wedi codi.
O ganlyniad, mae prifysgolion yng Nghymru wedi atal cyrsiau penodol dros dro ar gyfer carfan 2026-2027.
“Mae ffrindiau fi sy’n gweithio yn deud bod dim digon o staff, mae managers yn gofyn nhw weithio dros eu hamser yn aml, ond does dal dim swyddi.”
Mae'r arolwg diweddaraf o nyrsys yng Nghymru sy'n gadael y gofrestr nyrsio yn dangos bod 50.4% o'r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi gadael nyrsio yn gynharach nag yr oeddent wedi'i gynllunio'n wreiddiol.
Gadawodd 11% o’r rheiny oherwydd iechyd corfforol neu feddyliol, 6.3% oherwydd diffyg cefnogaeth, a 5.5% oherwydd blinder eithafol.
Cefnogaeth
“Mae’n anffodus iawn, achos pan ddigwyddodd Covid, roedd gymaint o ganmol a chlapio am y GIG pob dydd Iau ond pan aeth pawb ar streic am fwy o dal, doedd neb eisiau gwybod. Pan does dim swyddi does neb yn cael ateb ac does neb eisiau gwybod eto.”
Mae Olivia’n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth ar gyfer nyrsys cymwysedig heb waith, er bod diffyg cefnogaeth hefyd i'r rhai sydd mewn gwaith.
“Mae teimlad o ddiffyg gwerthfawrogiad. Mae pobl yn anghwrtais ac ymosodol yn ystafelloedd aros, rydym ni’n edrych at y GIG i gefnogi ni, ond does dim cefnogaeth.”
Mewn ymateb i bryderon Olivia, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwybod pa mor siomedig yw hi i raddedigion nyrsio eleni nad ydynt wedi llwyddo i sicrhau'r swyddi y buont yn gweithio mor galed i'w cael.”
“Mae Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi gofyn i sefydliadau nodi'r camau y maent yn eu cymryd i wella'r sefyllfa, a byddwn yn monitro cynnydd yn agos wrth i'r gwaith hwn barhau ledled Cymru.
"Yn dilyn Uwchgynhadledd y Graddedigion, mae'r Gwasanaeth Iechyd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, swyddogion Llywodraeth Cymru a phartneriaid y system yn gweithio gyda'u gilydd i wneud y mwyaf o gyfleoedd i raddedigion 2026 erbyn diwedd mis Awst.
"Mae Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi gofyn i sefydliadau nodi'r camau y maent yn eu cymryd i wella'r sefyllfa, a byddwn yn monitro cynnydd yn agos wrth i'r gwaith hwn barhau ledled Cymru."
