'Bwlch enfawr ar ei ôl': Teyrnged i ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llandrillo
Mae teulu dyn "gofalgar a hoffus" a fu farw mewn gwrthdrawiad yn ystod y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Bryn Roberts, 56 oed, wrth iddo yrru beic cwad ar ffordd y B4401 rhwng Llandderfel a Llandrillo ger Y Bala am 19:01 nos Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad, ond er gwaethaf eu hymdrechion bu farw yn y fan a'r lle.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn gymeriad "poblogaidd iawn" yn Llandrillo, lle'r oedd yn byw.
“Mae’n ddrwg gennym gydnabod marwolaeth sydyn ac erchyll Bryn Roberts," meddai ei deulu.
"Roedd Bryn yn gymar, tad, mab a brawd gofalgar a hoffus. Roedd yn gymeriad poblogaidd iawn yn y gymuned a byddai wastad yn barod i helpu eraill.
"Roedd yn hynod o weithgar ac yn meddwl y byd o’i deulu a ffrindiau. Hoffem ddiolch i staff yr ambiwlans awyr am eu hymdrechion a’u gwasanaeth.
"Mae colli Bryn yn ergyd enfawr i ni fel teulu a chymuned; bydd yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl.”
Cafodd y ffordd ei chau am sawl awr yn dilyn y digwyddiad er mwyn caniatáu i'r heddlu ymchwilio.
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion ac am wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliadau.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth iddynt gysylltu â swyddogion yr Uned Troseddau Ffyrdd, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000350452.
