Buddugoliaeth i Gymru a dau gais i George North yng ngêm olaf ei yrfa

Buddugoliaeth i Gymru a dau gais i George North yng ngêm olaf ei yrfa

Mae George North wedi gorffen ei yrfa fel chwaraewr rygbi drwy sgorio dau gais i'r Barbariaid yn erbyn Cymru brynhawn Sadwrn.

Fe sgoriodd y cyn-seren rhyngwladol ei gais cyntaf ddau funud yn unig ar ôl dod oddi ar y fainc 46 munud i mewn i'r gêm yn Stadiwm Allianz, Twickenham.

Daeth ei ail gais i'r Barbariaid wedi 70 munud, gan leihau'r bwlch i 33-22 o blaid Cymru.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon i drechu Cymru, gyda'r Crysau Cochion yn ennill 33-31 wedi bron i 83 munud o chwarae.

Aaron Wainwright gafodd ei ddewis yn seren y gêm.  

Mae George North wedi sgorio 47 o geisiau dros Gymru yn erbyn 12 gwlad wahanol, ond daeth â'i yrfa i ben yn sgorio yn erbyn ei wlad, wrth gynrychioli'r Barbariaid yn ei gêm olaf.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Cymro ei fod yn ymddeol o rygbi yn gyfan gwbl ar ddiwedd y tymor.

Mewn cyfweliad emosiynol ar S4C wedi'r chwiban olaf brynhawn Sadwrn, dywedodd bod rygbi wedi "rhoi popeth" iddo.

"Mae ‘di roi popeth i fi," meddai wrth y cyflwynydd Sarra Elgan.

"Breuddwyd yn blant, dod o Sir Fôn, ag oedd ddim lot o siawns. Goro cwffio pob diwrnod.

"Ers gêm cyntaf fi, mae ‘di bod yn pleser pob tro i fi roi’r crys ymlaen.

"Mae pob pwyntiau uwch a’r isaf... fydda i byth yn newid dim byd i gael yma heddiw."

'Byw'r freuddwyd'

Dywedodd cyn-ganolwr Provence Rugby, a enillodd 121 o gapiau dros Gymru, ei fod wedi "byw'r freuddwyd" a'i fod yn diolch i'w gefnogwyr.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad yn gynharach yn y flwyddyn, dywedodd North sydd hefyd wedi chwarae dros y Scarlets a’r Gweilch mai "dyma'r amser iawn".

"Rydw i wedi gallu byw’r freuddwyd oedd gen i’n blentyn am sawl tymor, gan chwarae gyda rhai o'r chwaraewyr, hyfforddwyr a'r staff gorau yn gefn i mi," meddai mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Nawr alla i ddim diolch digon i fy nheulu, fy ffrindiau a chi hefyd am y gefnogaeth rydych chi wedi'i dangos i mi dros y blynyddoedd.

"Mae wedi golygu'r byd i mi. Y bennod nesaf, ie, rwy'n dal i weithio ar honno, ond rwy'n gyffrous i weld ble mae'r daith honno'n fy arwain."

Fe wnaeth North ymddeol o’r tîm rhyngwladol yn 2024 yn dilyn 14 mlynedd yn chwarae dros dîm rygbi Gymru.

Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru pan oedd yn 18 oed.

North oedd y chwaraewr ieuengaf i ennill 100 o gapiau dros Gymru pan chwaraeodd yn erbyn Lloegr ym mis Chwefror 2021 yn 25 oed.

Mae wedi chwarae mewn pedwar Cwpan y Byd gan gyrraedd y rownd gynderfynol yn 2011.

Roedd tîm menywod Cymru yn wynebu'r Barbariaid yn hwyr brynhawn Sadwrn yn Stadiwm Allianz, Twickenham.

Llwyddodd menywod Cymru hefyd i guro'r Barbariaid.  

17-34 oedd y sgôr terfynol. 

Llwyddodd Kayleigh Powell, Seren Lockwood, Courtney Keight a Jorja Aiono i sgorio cais gydag Amy Williams yn sgrio dau gais. 

Bryonie King oedd seren y gêm.


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.