Bron i £60,000 wedi ei ddwyn o fferyllfa yn Sir Benfro

Dinbych y Pysgod

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i bron i £60,000 gael ei ddwyn o fferyllfa yn Sir Benfro.

Y gred yw bod y lladrad wedi digwydd rhwng 01:47 a 01:52 fore dydd Mercher 9 Medi yn fferyllfa Evans Pharmacy yn Ninbych-y-pysgod.

Cafodd drysau allanol y fferyllfa eu difrodi, ac fe adroddwyd fod tua £57,000 wedi cael ei ddwyn.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys ni chafodd unrhyw feddyginiaethau eu dwyn yn y digwyddiad.

Y gred yw bod pedwar unigolyn sydd dan amheuaeth wedi defnyddio car BMW du.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.