Bron i 100,000 o eitemau ‘ar goll’ neu ‘heb eu dychwelyd’ i lyfrgelloedd Cymru
Mae bron i 100,000 o eitemau o lyfrgelloedd ar draws Cymru wedi eu cofnodi fel rhai ‘ar goll’ neu 'heb eu dychwelyd', yn ôl ffigurau sydd wedi eu casglu drwy gais rhyddid gwybodaeth i bob cyngor sir yng Nghymru.
Roedd y dadansoddiad o gofnodion y llyfrgelloedd yn ymwneud ag eitemau wedi eu benthyg rhwng mis Medi 2025 a mis Medi 2026.
Roedd 48,743 o eitemau wedi eu cofnodi fel rhai “ar goll”, tra bod 51,130 yn ychwanegol wedi eu rhestru fel rhai oedd yn “hwyr iawn yn cael eu dychwelyd”.
Gyda’i gilydd, mae bron i 100,000 o fenthyciadau heb eu dychwelyd, neu ar goll, a thra bod cyfanswm o 455,889 o eitemau ar fenthyg ar hyn o bryd, mae’r ffigur o bron i 49,000 o eitemau ar goll yn 10% o’r cyfanswm hwnnw.
Mae’r eitemau’n cael eu trefnu fel a ganlyn:
Ar fenthyg: hyd at 30 diwrnod yn hwyr
Eitemau hwyr: rhwng 31 a 89 diwrnod yn hwyr
Ar goll: 90 diwrnod neu fwy yn hwyr
(Yn seiliedig ar y nfier o ddiwrnodau y mae’r eitem wedi mynd heibio ei ddyddiad dychwelyd disgwyliedig).
Abertawe oedd y sir â’r nifer uchaf o eitemau coll, sef 4,558, gyda Chastell-nedd Port Talbot yn ail gyda 3,791, a Chaerffili yn drydydd gyda 3,407 ar goll.
Caerdydd oedd y sir â’r nifer uchaf o eitemau ar gofnod fel “benthyciadau hwyr iawn” heb eu dychwelyd, sef 17,438.
Mae hyn yn awgrymu bod Caerdydd yn gyfrifol am 34.1% o holl fenthyciadau eitemau o lyfrgelloedd ledled Cymru sydd wedi eu cofnodi fel “benthyciadau hwyr iawn” - sef 17,438 eitem o’r cyfanswm o 51,130.
Yn ail oedd sir Gaerfyrddin â 3,935 yn hwyr heb eu dychwelyd, a Chastell-nedd Port Talbot eto’n cyrraedd y rhestr yn drydydd gyda 3,414 yn hwyr heb eu dychwelyd.
Gallai gwerth cost ailosod amcangyfrifiedig y llyfrau coll hyn fod yn gannoedd ar filoedd o bunnoedd i’r eitemau heb eu dychwelyd.
Pe bai pob un o'r 48,743 o eitemau a gofnodwyd fel rhai coll yn costio £15 ar gyfartaledd i'w disodli, byddai cyfanswm eu gwerth yn fwy na £730,000.
Amcangyfrifiad damcaniaethol yw hwn yn hytrach na cholled ariannol wedi'i chadarnhau, a byddai'r gost wirioneddol yn ddibynnol ar y math a gwerth yr eitem ar goll.
Mae’r ffigurau hefyd yn datgelu pa lyfrau sydd wedi ymddangos amlaf ymhlith yr eitemau sydd wedi eu cofnodi fel rhai coll.
Ar draws siroedd Cymru mae llyfrau plant wedi profi’n boblogaidd iawn - ar frig y rhestr roedd No Brainer, o gyfres boblogaidd Diary of a Wimpy Kid gan Jeff Kinney, gyda 48 o gofnodion o'r llyfr “ar goll”.
Cafodd llyfr arall o'r un gyfres, Hot Mess, ei gofnodi fel un ar goll 45 o weithiau, tra bod Big Jim Begins gan Dav Pilkey wedi ymddangos “ar goll” 39 o weithiau.
Ymhlith y benthyciadau “heb eu dychwelyd”, a allai gynnwys y rheini fydd ar goll yn y pendraw, Dinosaurs oedd y teitl oedd yn ymddangos amlaf gyda 201 cofnod o’r llyfr heb ei ddychwelyd.
Gallai hwn fod yn gyfeiriad cyffredinol at nifer o lyfrau gwahanol yn ymwneud â deinosoriaid.
Ymddangosodd Diper Överlöde, llyfr arall o gyfres Diary of a Wimpy Kid, 165 o weithiau fel llyfr heb ei ddychwelyd.
Nid yw’r data yn profi bod yr eitemau sydd wedi eu cofnodi “ar goll” yn cadarnhau eu bod wedi eu dwyn, nac yn cadarnhau na fydden nhw’n cael eu dychwelyd yn y dyfodol.