Betsi Cadwaladr: Pleidiau'n galw am ddiswyddo pennaeth wedi adroddiad beirniadol
Does gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr "ddim y gallu” i fynd i’r afael â’r methiannau yn ysbytai’r gogledd, ac mae'n rhaid iddi "gael ei diswyddo," yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn ôl Darren Millar, sy’n aelod o Senedd Cymru dros ardal Clwyd, dyw’r sefyllfa bresennol ddim yn “deg nac yn dderbyniol” .
Daw ei alwad yn dilyn adroddiad beirniadol am safon y gofal yn Uned Frys Ysbyty Glan Clwyd wnaeth ganfod pryderon am arweinyddiaeth, trefniadaeth, diogelwch ac hyfforddiant staff.
Ychwanegodd Mr Millar fod cleifion "mewn perygl".
Mewn datganiad dywedodd Prif Weithredwr y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer, ei bod yn "ymddiheuro'n ddiamod" i'r cleifion "a bod y bwrdd iechyd yn gweithredu".
Ond wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Reform UK eu bod nhw’n cefnogi galwad y Ceidwadwyr i'w diswyddo, gan ychwanegu nad oes ganddyn nhw hyder yn yr arweinwyr presennol.
Beirniadaeth arolygwyr
Cafodd yr arolwg gwreiddiol ei gynnal dros dri diwrnod ym Mai 2026 gyda phryderon yn codi bryd hynny am ddiogelwch, arweinyddiaeth, urddas. preifatrwydd cleifion a rheolaeth.
Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ailymweld â’r adran ym mis Awst eleni.
Yn ôl yr arolygwyr, roedd gwelliannau wedi bod o ran llesiant ac ymgysylltiad staff, llif cleifion, trefniadau llywodraethu pediatrig, a rheoli meddyginiaethau ac offer.
Ond dywedodd yr arolygwyr fod heriau’n parhau o ran goruchwylio’r ystafell aros, lleihau oedi wrth gael mewnbwn arbenigol a sicrhau bod modd cynnal y gwelliannau diweddar.
'Cwbl annerbyniol'
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C dywedodd Darren Millar AS bod yn rhaid i’r sefyllfa newid.
“Mae’n gwbl annerbyniol, ‘di o ddim yn deg i staff a 'di o ddim yn deg i gleifion - nifer sydd mewn perygl”.
“Rydyn ni wedi laru ar adroddiadau fel yr un yma am ein ysbyty lleol ym Modelwyddan.
“Yr hyn sydd wir angen ei newid ydy Prif Weithredwr y sefydliad hwn.
“Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymddangos fel ei fod yn methu gwella’r sefyllfa dan yr arweinyddiaeth bresennol felly mae’n rhaid iddi fynd”.
Cafodd Carol Shillabeer ei phenodi'n brif weithredwr dros dro yn 2023 ac yn yna yn barhaol yn 2024.
Mae Dirprwy Arweinydd Reform UK yng Nghymru, Helen Jenner, yn dweud ei bod yn cytuno gyda galwadau’r Ceidwadwyr.
“'Dan ni angen edrych ar yr atebolrwydd a rheolaeth - mae’n broblem ledled Betsi Cadwaladr ac mae’n rhywbeth sy’n codi pryder gwirioneddol oherwydd mae’n wasanaeth mor bwysig”, meddai.
“Mae hyn [diswyddo’r prif weithredwr] yn rhywbeth fasa ni yn cynsidro.
“'Dan ni yn cytuno efo hynna oherwydd ar ddiwedd y dydd y bobl sy’n rheoli o’r top, nhw sy’n gorfod cael eu dwyn i gyfri”.
Ychwanegodd Ms Jenner nad oedd ganddi hyder yn yr unigolion sy’n arwain y bwrdd iechyd.
“Mae’r problemau yn parhau a pharhau”, meddai.
Mewn ymateb, dywedodd Carol Shillabeer mewn datganiad bod y bwrdd yn "ymddiheuro'n ddiamod i'r cleifion hynny na chawsant y gofal maent yn ei haeddu."
Ychwanegodd: "Mae gwella gofal cleifion ym maes gofal brys a gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd ac mae'r holl gamau gweithredu sy'n ofynnol gan yr adroddiad arolygu bellach ar y gweill yn yr adran ac mewn mannau eraill yn yr ysbyty.
"Mae cydweithwyr yn yr Adran Achosion Brys yn gweithio'n galed o dan bwysau uchel cyson ac rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod gwerthfawrogiad y cyhoedd o'r gofal y maent yn ei gynnig.
"Gwyddom fod materion systemig sylweddol a hir sefydledig sy'n cymhlethu'r pwysau mewn adran sy'n brysur yn gyson ac mae'n galonogol gweld bod AGIC wedi cydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud o ran cynorthwyo staff a mynd i'r afael â'r materion hynny, yn eu harolygiad dilynol.
"Rydym yn ymrwymedig i roi sicrwydd i AGIC a'r cyhoedd ein bod o ddifri am wella profiadau pobl yn ein Hadrannau Achosion Brys trwy ymgorffori cynnydd i newid hirdymor a chynaliadwy."
Cydnabod difrifoldeb
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, ei fod yn cydnabod difrifoldeb y darganfyddiadau.
“Mae’r bwrdd iechyd wedi gosod mesurau tymor byr a hir yn eu lle a dwi’n croesawu arwyddion cynnar o gynnydd.
”Dwi’n disgwyl gweithredu parhaus gan y bwrdd iechyd… i ddangos gwelliannau i bobl gogledd Cymru".
Bydd adolygiad annibynnol i arweinyddiaeth, llywodraethant a diwylliant y bwrdd iechyd yn adrodd yn ôl i’r gweinidog fis nesaf.