Beth nesaf i’r llongddrylliad oddi ar arfordir Sir Benfro?

ITV Cymru
Llongddrylliad

Mae’n ymddangos bod llong sydd wedi bod yn sownd ar hyd arfordir Sir Benfro ers mis Rhagfyr wedi dod yn llongddrylliad parhaol yn yr ardal gyda neb yn dod ymlaen i’w hawlio. 

Yn gynnar y bore ar 11 Rhagfyr cafodd cychod achub yr RNLI eu hanfon at long 24m o hyd o’r enw Resolute a darodd y tir ger Aber Hywel, wrth ymyl Abergwaun.

Roedd pedwar aelod o’r criw ar y llong ar y pryd a chafon nhw eu hachub gan wirfoddolwyr yr RLNI ar ôl adroddiadau gan Wylwr y Glannau am tua 03:30. 

Ond fwy na dau fis yn ddiweddarach, mae'r llong yn parhau i fod yno, wedi hanner suddo ger y glannau. 

Image
Llongddrylliad
Llun: JC Explores

Felly, beth nesaf i’r llongddrylliad? 

Hyd yma does neb wedi dod ymlaen i hawlio’r llong ac yn ôl Gwylwyr y Glannau mae ymdrechion i'w hadfer yn gyfrifoldeb ar y perchennog. Dyw Gwylwyr y Glannau heb ddatgan pwy yw’r perchennog, felly am nawr mae’n parhau i fod yn ddirgelwch. 

Fe wnaeth datganiad gan y sefydliad ddweud eu bod nhw’n “parhau i fonitro’r llong sydd dal i fod ar dir wrth ymyl Abergwaun. 

“Mae rhan fwyaf o’i danwydd wedi cael ei drosglwyddo i'r lan ac nid oes adroddiadau am lygredd wedi bod ers i ychydig bach gael ei adrodd i ddechrau.” 

“Cafodd y pedwar aelod o’r criw eu cymryd oddi ar y llong yn ddiogel ar 11 Rhagfyr gan long achub RNLI o Abergwaun. Mynychodd Tîm Achub Arfordirol Abergwaun a Thîm Achub Arfordirol Tyddewi a llong achub bob-tywydd RNLI o Abergwaun.” 

Image
Llongddrylliad

Daeth Jay Curtis, crëwr cynnwys o Abertawe, ar draws y Resolute yn gynnar ym mis Chwefror wrth gerdded ar hyd y llwybr arfordirol yn Abergwaun. 

Ar y pryd, roedd Jay yn hedfan ei ddrôn ac yn tynnu lluniau o’r tirwedd pan ddaeth o hyd i’r llongddrylliad. 

“I fi mae’n golygfa eitha anarferol, dyw e ddim yn bob dydd dy’ chi’n mynd i gerdded yng Nghymru a chi’n ffeindio llongddrylliad 24m o hyd ar draws y cerrig yn Sir Benfro. 

“I ddod ar draws llongddrylliad anferth, newydd, sydd ddim yn hen long o flynyddoedd maeth yn ôl, digwyddodd hyn dim ond misoedd yn ôl ac i gweld ei fod e dal wedi cael ei adael wythnosau ymlaen, mae’n olygfa rhyfedd.”

Prif lun: JC Explores

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.