Beirniaid dadl AI y Daniel Owen wedi ‘cael cam’ medd Llywydd Llys yr Eisteddfod
Beirniaid dadl AI y Daniel Owen wedi ‘cael cam’ medd Llywydd Llys yr Eisteddfod
Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod, Nic Parry, wedi dweud bod beirniaid Gwobr Daniel Owen a awgrymodd bod cystadleuydd wedi defnyddio AI wedi “cael cam”.
Roedd dysgwr Cymraeg wedi galw ar yr Eisteddfod i sicrhau bod sylwadau beirniaid yn gleniach ar ôl iddyn nhw awgrymu ar lwyfan y Pafiliwn ei bod wedi defnyddio AI wrth ysgrifennu nofel.
Dywedodd Romy Wood, sy’n awdur cyhoeddedig yn Saesneg, wrth Newyddion S4C fod y feirniadaeth ar ei nofel gyntaf yn Gymraeg wedi’i brifo.
Ond dywedodd Nic Parry wrth raglen Newyddion S4C bod sylw y beirniaid yn “gwbwl deg” os oedden nhw’n amau bod AI wedi cael ei ddefnyddio.
“Pwy ddylai deimlo wedi cael eu brifo ydi’r beirniaid,” meddai.
“Y cyfan wnaethon nhw oedd mynegi eu bod nhw yn annibynnol o’i gilydd wedi dod i’r farn bod y gwaith yma o bosib wedi ei greu gan AI.
“Ac os oedd e, bod hynny’n warthus. Doedd yna ddim sen.
“Dwi wedi clywed beirniaid yn aml mewn cystadleuaeth yr Awdl yn deweud ‘biti bod nhw methu cynganeddu’ a mae’r gynulleidfa yn chwerthin.
“Dydi hynny ddim yn sen unigol.
“Mae’r Eisteddfod a’r beirniaid yn parchu teimladau pobl a dwi ddim yn teimlo bod hyn yn tramgwyddo hynny.
“Wrth gwrs fe gymerwn ni sylw o’r sylwadau a gweld os oes angen gwneud rywbeth.
“Ond dwi yn teimlo bod y beirniaid wedi cael cam.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2084689462915661829?s=20
‘Bregus’
Wrth draddodi'r feirniadaeth ddydd Mawrth, dywedodd un o’r beirniaid, Meinir Wyn Edwards, ei fod yn “gywilyddus” bod y nofel yr oedd hi a'r beirniaid eraill yn amau oedd wedi ei hysgrifennu gan AI wedi ei gyrru i’r gystadleuaeth.
Dywedodd fod y beirniaid yn “amau mai peiriant deallusrwydd artiffisial sydd wedi creu'r nofel”.
Ond dywedodd Romy Wood nad oedd yn wir ei bod wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial.
Roedd angen i’r Eisteddfod “feithrin” awduron os oedden nhw am iddyn nhw barhau i gyfrannu, meddai.
“Dwi i ddim yn meindio dod yn olaf,” meddai.
“Ond erbyn y flwyddyn nesaf rydw i eisiau strategaeth mewn lle i sicrhau bod ni ddim yn sefyll ar y llwyfan ac yn annog y gynulleidfa i chwerthin am rywun.
“Gallwn i fod wedi bod yn eistedd yn y gynulleidfa, gyda plant, gyda teulu, yn rywun ifanc - dwi’n ganol oed - ond falle swn i’n rywun ifanc yn sgwennu nofel gyntaf.
“Flwyddyn nesaf, ydan ni’n mynd i parchu ein gilydd? Does neb yn haeddu cael eu galw yn shameful.
“Mae pobl creadigol yn eitha’ bregus. Roedd hi yn anghwrtais iawn, iawn amdanaf. Ac roedd y ddau arall yn chwerthin amdanaf fi, ar y teledu, yn y babell bwysig.
“Dyw e ddim yn addas nac yn barchus o gwbl. Da ni ddim yn ymddwyn fel ‘na yng Nghymru.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2085417380394467426?s=20
Ymateb
Dywedodd y beirniaid Lleucu Roberts, Meinir Wyn Edwards a Llwyd Owen eu bod yn derbyn canllawiau parch yr Eisteddfod.
"Mae'n ddrwg calon gennym ein bod wedi peri gofid, ond roedd y tri ohonom yn unfarn mai rhyw fath o ddeallusrwydd artiffisial oedd wedi creu'r gwaith," medden nhw.
"Braf gweld dysgwyr yn hogi eu crefft ar gystadlaethau'r Eisteddfod. Rhyw ddydd, diau y gwelwn yr awdures newydd hon i'n hiaith yn gwisgo'r Fedal.
"Llongyfarchiadau gwresog iawn i Rebecca Thomas ar greu nofel wirioneddol arbennig."
Wrth ymateb dywedodd yr Eisteddfod fod y beirniaid "yn gwbl annibynnol, mae’n bwysig i ni fel sefydliad barchu’r annibyniaeth honno".
"Ar yr un pryd, rydym am weld adborth yn cael ei gyflwyno mewn ffordd barchus, ac adeiladol, ac ni fyddwn byth am i unrhyw gystadleuydd deimlo bod y profiad wedi’i ddifetha gan y ffordd y cafodd yr adborth ei roi," medden nhw.
"Mae annog dysgwyr i gymryd rhan yn llawn yn ein cystadlaethau hefyd yn egwyddor hollbwysig i ni, fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi twf y Gymraeg ac i groesawu siaradwyr newydd i’n cystadlaethau.
"Byddwn yn rhannu’r adborth â’r panel o feirniaid ac yn ei ystyried wrth barhau i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bawb sy’n cymryd rhan."
Wrth siarad ar y Maes, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses wrth Newyddion S4C: “Mae yna ganllawiau yn bodoli a beth da ni’n gofyn ydi eu bod nhw’n dilyn ein polisi parch ni.
“Mae angen parchu bob ymgeisydd fel eu bod nhw’n teimlo yn gyfforddus wrth glywed y feirniadaeth.
“Mae annibyniaeth y beirniaid wrth gwrs yn rhan ganolog o’n prosesau ni.”