Beirniadu ymateb Heddlu'r Gogledd cyn marwolaethau dau ddyn ifanc yn Eryri
Galwad 999
Clywodd y cwest fod yr heddlu wedi derbyn galwad 999 gafodd ei gadael heb ei chwblhau am 16.30 ar Chwefror 19 o ffôn symudol Jayden Long.
Dywedodd y llais ar yr alwad: "Helo, allwch chi fy nghlywed?"
Fe gollwyd cyswllt wedyn, ac roedd yr heddlu wedi ceisio ffonio ac anfon neges at y rhif ffôn o ganlyniad.
Ond ni chafodd tîm achub mynydd Llanberis wybod am yr alwad am dair awr.
Tua'r un pryd â'r alwad 999, roedd Mr Hill wedi anfon neges at ei gariad yn dweud, oherwydd y tywydd, eu bod yn mynd yn ôl i lawr crib na wnaeth ei henwi ar y pryd.
Yn ddiweddarach y noson honno, cysylltodd dyn o'r enw David Evans â'r heddlu gan ei fod yn poeni am y ddau ac fe gafodd hofrennydd Gwylwyr Glannau ei alw i gynnal archwiliad o'r tir.
'Amodau gaeafol'
Dywedodd Phil Benbow o Dîm Achub Mynydd Llanberis wrth y cwest fod gwirfoddolwyr wedi'u hanfon i'r mynydd am 23.30 wrth i'r gwaith o chwilio am y dynion gael ei ehangu yng nghanol eira a rhew.
"Roedd y tywydd yn un llawn amodau gaeafol, gan olygu bod angen bwyeill rhew a chramponau, yn ogystal â'r gallu i'w defnyddio," meddai.
"Dywedodd y tîm fod eira caled a rhew ar y grib."
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Lloyd o adran safonau proffesiynol Heddlu Gogledd Cymru fod Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cyfeirio yr achos yn ôl i'w ymchwilio'n lleol.
"Yn dilyn fy ymchwiliad, nodwyd gwersi i Heddlu Gogledd Cymru, ac i aelodau o'r ystafell reoli. Ni chafodd y digwyddiad ei ddyrchafu i lefel uwch fel y dylai fod wedi digwydd," meddai.
Daeth i'r casgliad na chyfrannodd methiannau'r heddlu at y marwolaethau.
'Dim yn ddigon da'
Ond fe heriodd tad Jayden Long, Stephen Long, y casgliad hwnnw, gan honni nad oedd yr adroddiad "yn ddigon da."
Roedd yr heddlu wedi methu ag ymchwilio i bwy oedd wedi gwneud yr alwad 999 fer, meddai.
Wrth ymuno â'r cwest dros gyswllt fideo, dywedodd Mr Long fod "analluogrwydd" wedi bod yn amlwg y noson honno.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Bartlett, hefyd o adran safonau proffesiynol Heddlu'r Gogledd, fod "ymateb annigonol" wedi bod yn ystod yr awr gyntaf.
Esboniodd wrth y gwrandawiad: "Gellid bod wedi gwneud mwy, a dylid bod wedi gwneud mwy."
'Chwalu'n llwyr'
Dywedodd y crwner: "Bu farw Jayden ac Eddie ill dau o ganlyniad i gwympo ar dir serth, mynyddig mewn tywydd garw, gyda'r ddaear wedi'i gorchuddio gan rew ac eira.
"Ni allaf bennu pryd y cwympon nhw na os gwnaethant ddisgyn gyda'i gilydd."
Dywedodd wrth aelodau o'r teulu: "Rwy'n siŵr bod eich bywydau wedi'u chwalu'n llwyr gan y drasiedi ddifrifol hon."
