Awyrlu’r Unol Daleithiau yn tynnu pob un o'i awyrennau bomio o RAF Fairford
Mae Awyrlu’r Unol Daleithiau wedi tynnu pob un o’i awyrennau bomio o RAF Fairford yn Swydd Gaerloyw.
Daw hyn wedi i chwech o ddynion gael eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth mewn cysylltiad â digwyddiad yno yn ystod oriau mân fore Sul, 27 Medi.
Mae’r awyrennau bomio wedi dychwelyd i’w canolfannau yn yr Unol Daleithiau. Roedd gwefannau monitro awyrennau yn dangos awyrennau B-1 yn gadael y ganolfan ddydd Sul.
Ddydd Sadwrn, dywedodd yr heddlu gwrthderfysgaeth fod chweched dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn RAF Fairford wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y dyn 25 oed, sydd â dinasyddiaeth Brydeinig ac Iranaidd, ei arestio ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd terfysgol o dan Adran 5 Deddf Terfysgaeth 2006.
Cafodd pump o ddinasyddion Prydain, sydd i gyd yn eu 20au, eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â ffrwydron a therfysgaeth. Cawson nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Dywedodd un o swyddogion y Pentagon ddydd Sul eu bod yn “gallu cadarnhau bod holl awyrennau bomio’r Unol Daleithiau a oedd wedi’u lleoli yn RAF Fairford” wedi dychwelyd i’w canolfannau yn yr Unol Daleithiau.
“Mae’r criwiau sy’n gweithredu awyrennau bomio America, gan gynnwys awyrennau B-1, B-2 a B-52, yn dal yn barod i gynnal ymosodiadau manwl gywir ledled y byd – gan gynnwys ymgyrchoedd lle mae’r awyrennau’n hedfan o dir mawr yr Unol Daleithiau ac yn dychwelyd yno – unrhyw le, unrhyw bryd,” meddai’r llefarydd.
Trump yn ‘siomedig’
Dywedodd uwch gydlynydd cenedlaethol yr heddlu gwrthderfysgaeth yn y DU, Vicki Evans, yn gynharach fod yr ymchwiliad yn “hynod gymhleth”.
Ychwanegodd: “Fel rydyn ni wedi’i gwneud yn glir, rydyn ni’n ystyried pob posibilrwydd – gan gynnwys y posibilrwydd bod gwladwriaeth dramor yn gysylltiedig.”
Mae’r heddlu gwrthderfysgaeth eisoes wedi dweud bod swyddogion wedi dod o hyd i betrol yn y faniau a sbardunodd y rhybudd diogelwch, ond dim dyfeisiau ffrwydrol.
Dywedodd y Prif Weinidog Andy Burnham fod “arwyddion cryf” bod Iran wedi chwarae rhan yn y digwyddiad.
Mae awyrennau bomio’r Unol Daleithiau wedi defnyddio RAF Fairford yn ystod y misoedd diwethaf. Daw hyn ar ôl i’r cyn-brif weinidog Syr Keir Starmer roi caniatâd i Washington ddefnyddio canolfannau ym Mhrydain ar gyfer ymosodiadau “amddiffynnol” yn erbyn Tehran yn ystod y rhyfel yn y Dwyrain Canol.
Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ei fod yn “siomedig” ar ôl i’r pum dyn gael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
“Fe wnaethon nhw eu rhoi ar fechnïaeth,” meddai.
“Rwy’n cymryd nad ydyn nhw wedi cadw llygad barcud… ddylen nhw ddim fod wedi gwneud hynny.”
Llun: Awyren Rockwell B-1 Lancer UDA yn RAF Fairford gan Ben Birchall.