Awyren fechan wedi plymio i'r môr oddi ar arfordir Ceredigion
Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty ar ôl i awyren fechan blymio i'r môr oddi ar arfordir Ceredigion.
Digwyddodd hynny ddydd Gwener yn ôl Gwylwyr y Glannau, ac fe adawodd y ddau a oedd yn yr awyren yr ysbyty ddydd Sadwrn.
Roedd yr awyren fechan yn teithio o Iwerddon i Aberporth yng Ngheredigion, lle roedd disgwyl iddi aros dros nos er mwyn rhoi tanwydd ynddi, cyn parhau â'i thaith i'r Eidal.
Roedd dwy awyren fechan yn teithio gyda'i gilydd pan gafodd un drafferthion technegol, a chafodd Gwylwyr y Glannau eu galw.
Plymiodd i'r môr oddi ar arfordir Aberteifi.
Cafodd criwiau achub o Gei Newydd, Aberteifi ac Abergwaun eu hanfon yno.
Dywedodd criw bad achub Cei Newydd bod y ddau yn yr awyren wedi eu trosglwyddo i ofal y Gwasanaeth Ambiwlans cyn iddyn nhw gael eu cludo i'r ysbyty.
"Roedden nhw mewn sioc, ac fe dreuliodd y ddau'r noson yn yr ysbyty cyn cael eu hanfon adref ddydd Sadwrn," meddai Rees-Tom Jones o orsaf Cei Newydd.
"Maen nhw bellach wedi mynd ar y fferi yn ôl i Iwerddon o Abergwaun."
Llun: Criw Bad Achub Abergwaun