Awgrym gan Donald Trump o drafodaethau heddwch newydd gydag Iran
Bydd trafodaethau heddwch newydd yn cychwyn ddydd Llun gydag Iran medd Arlywydd yr UDA, Donald Trump.
Dywedodd ei fod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen gydag ymosodiad 'anferth' ar y wlad ar ôl i Iran a chynghreiriaid yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol ofyn iddo beidio.
Ychwanegodd fod prif amlinelliad cytundeb wedi ei gytuno.
Mae Mr Trump wedi dweud sawl gwaith o'r blaen bod yr UDA ac Iran yn agos at gyrraedd y pwynt o drafod diwedd i'r rhyfel ond yna mae'r ymosodiadau rhwng y ddwy wlad wedi ail ddechrau'n ddiweddarach.
Dyw Iran ddim eto wedi ymateb i sylwadau diweddaraf Donald Trump.
Wrth siarad gyda newyddiadurwyr ddydd Sul ni wnaeth yr Arlywydd osod amserlen ar gyfer unrhyw gytundeb newydd.
"Cawn weld sut fydd pethau. Rydyn ni'n barod i weithredu unrhyw bryd rydyn ni eisiau... Dydw i ddim yn edrych i ladd pobl," meddai.
Ychwanegodd fod Tywysog Coronog Saudi Arabia a chynghreiriaid eraill yr Unol Daleithiau wedi ei annog i beidio â chynnal ymosodiadau yn ystod y penwythnos.
"Y rheswm wnaethon nhw ofyn i ni oedd eu bod nhw yn meddwl fod yna gytundeb. Mae cytundeb ar Hormuz ac fe fydd yna gytundeb ar niwclear," meddai.