Athro ‘wedi smalio bod yn sâl’ er mwyn mynd ar barti stag ffrind
Mae tribiwnlys wedi canfod bod athro wedi “smalio bod yn sâl” er mwyn mynd i Bortiwgal ar gyfer parti stag ffrind.
Roedd Joe Wilson, a oedd yn athro Blwyddyn 6 yn Ne Swydd Efrog, wedi rhwygo tudalennau o’i basbort yn ddiweddarach er mwyn celu'r hyn a wnaeth.
Roedd wedi mynd ar y gwyliau ddydd Iau 18 Mai a dydd Gwener 19 Mai 2023, clwydodd y tribiwnlys.
Dywedodd wrth Ysgol Listerdale Junior Academy yn Rotherham ei fod wedi bod “ar ei draed drwy’r nos yn chwydu”, gan barhau â’r celwydd y diwrnod wedyn, cyn dychwelyd i’r gwaith ar y dydd Llun.
Tua 05:00 ar 18 Mai 2023, anfonodd neges yn dweud: “Fydda i ddim yn yr ysgol heddiw. Dwi wedi bod ar fy nhraed drwy’r nos yn chwydu ac mae gen i gur pen ofnadwy.”
Y diwrnod wedyn, dywedodd wrth yr un person: “Dwi dal ddim yn well felly fydda i ddim yn yr ysgol heddiw.
“Alla i ddim cadw unrhyw fwyd na dŵr i lawr. Fe wna i roi gwybod y diweddaraf i chi.”
Ond clywodd y panel fod aelod dienw o staff wedi tynnu sylw at luniau o Mr Wilson mewn maes awyr â pheint o gwrw yn ei law.
Cafodd un o’r lluniau yr oedd ef ynddo ei bostio gan berson arall am 05:23 ar fore 18 Mai 2023 gyda’r geiriau: “Dechrau cynnar ar gyfer […] parti stag, ambell gwrw gyda’r gaffer o Bortiwgal”.
Honnodd Mr Wilson yn wreiddiol fod y lluniau wedi’u tynnu ar daith flaenorol, ond fe wnaeth gyfaddef yn ddiweddarach wrth yr Asiantaeth Rheoleiddio Addysgu (TRA) ei fod wedi “cytuno i fynd i barti stag yn Lisbon”.
Roedd wedi “gwneud camgymeriad enfawr ond (yn teimlo) bod y sefyllfa ar y pryd wedi dylanwadu (arno) i wneud y penderfyniad gwael dan sylw”.
Dywedodd hefyd wrth y TRA ym mis Hydref 2025 ei fod yn “derbyn cyfrifoldeb llawn” am ei weithredoedd, gan gynnwys “ffugio salwch”.
Ym mis Chwefror, anfonodd e-bost at yr asiantaeth yn dweud ei fod wedi “smalio bod yn sâl er mwyn mynd i barti stag (ei) ffrind”.
'Cywilydd'
Fe wnaeth Mr Wilson hefyd dynnu tudalennau o’i basbort er mwyn cuddio’r ffaith ei fod wedi bod i ffwrdd.
Dywedodd wrth y TRA ei fod wedi “gwneud camgymeriad enfawr drwy dynnu tudalen allan o’i basbort” ar ôl “sgwrs anffurfiol gyda’i bennaeth” gan ei bod hi wedi “ei annog i ddangos rhywbeth ‘er mwyn iddyn nhw adael llonydd i mi’”.
Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo “cywilydd” am ei weithredoedd.
Roedd adroddiad yn ymchwilio i’r achos yn nodi bod Mr Wilson wedi rhoi ei basbort i rywun o’r ysgol ym mis Mehefin 2023.
Roedd llungopïau o’r ddogfen yn dangos bod tudalennau 9, 10, 27 a 28 ar goll, yn ôl y tribiwnlys.
Canfu’r panel fod hynny’n profi bod:
- Mr Wilson wedi bod yn absennol o’r ysgol heb reswm priodol
- Wedi dweud wrth yr ysgol ei fod yn absennol oherwydd salwch pan nad oedd hynny’n wir
- Wedi tynnu tudalennau o’i basbort a fyddai wedi cynnwys stampiau’n dangos ei fod allan o’r wlad ar y dyddiadau dan sylw
“Wrth ddweud celwydd ei fod yn absennol oherwydd salwch a chyflwyno dogfen wedi’i haddasu yn ystod ymchwiliad, roedd Mr Wilson yn camarwain yr ysgol yn fwriadol ac yn cuddio’r gwir,” meddai’r panel yn ei ddyfarniad.
“Roedd y panel o’r farn bod ymddygiad Mr Wilson islaw’r safonau moesegol a ddisgwylir gan athro, ac yn groes i’r ffordd y mae’r proffesiwn yn datgan ei fod yn gwasanaethu’r cyhoedd.”
Canfu hefyd fod ei ymddygiad yn dangos diffyg uniondeb, ei fod yn anonest, ac y gallai ei weithredoedd ddwyn anfri ar y proffesiwn.
Penderfynwyd na fyddai gorchymyn gwahardd, a fyddai’n golygu bod Mr Wilson yn cael ei wahardd rhag addysgu, yn gymesur.
Byddai cyhoeddi’r canfyddiadau yn ddigon, medden nhw.
Llun: Alan Levine
