Arwyddion o haf da i löynnod byw ond rhywogaethau prin yn diflannu
Mae arwyddion y gallai eleni fod yn flwyddyn dda i rai glöynnod byw, ond mae rhywogaethau prin yn parhau i ddiflannu o rannau o Gymru, yn ôl arbenigwr.
Dywedodd Neil Gale, rheolwr Tŷ Glöynnod Byw Magic of Life yng Nghwm Rheidol ger Aberystwyth, fod mentyll tramor “yn bendant o gwmpas” yng Ngheredigion eleni.
Glöyn byw mudol gydag adenydd oren, du a gwyn yw’r fantell dramor.
Mae’n teithio i Brydain o ardaloedd cynhesach ac i’w gweld mewn gerddi, cefn gwlad a mannau agored llawn blodau.
Ond dywedodd Mr Gale ei bod yn rhy gynnar i wybod a fydd eleni’n flwyddyn dda i löynnod byw yn gyffredinol.
“Rydych chi’n cael blynyddoedd da a blynyddoedd gwael gyda glöynnod byw,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Maen nhw’n dibynnu’n fawr iawn ar y tymheredd, yn enwedig os ydych chi’n cael gwanwyn cynnes.
“Mae’n well barnu’r niferoedd ym mis Awst a mis Medi, oherwydd dyna pryd mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod allan.”
Dywedodd y gall nifer fawr o löynnod byw cyffredin mewn gerddi guddio’r dirywiad ymhlith rhywogaethau sy’n dibynnu ar gynefinoedd penodol.
“Mae tua 75% ohonyn nhw’n arbenigo mewn cynefinoedd penodol,” meddai.
“Dydyn nhw ddim yn byw mewn gerddi ac ni allan nhw hedfan yn bell fel mantell goch.
“Maen nhw’n dal i ddirywio.”
‘Wedi diflannu’
Dywedodd Mr Gale ei fod yn credu bod y Fritheg Berlog wedi diflannu o safle yng Nghwm Soden yng Ngheredigion.
Mae wedi bod yn chwilio am y glöyn byw yn yr ardal, ger Cwmtydu, Llangrannog a Cheinewydd, ers rhwng 10 a 12 mlynedd.
Mae’r Fritheg Berlog Fach, rhywogaeth debyg sydd hefyd yn brin, yn dal i gael ei gweld yno.
“Dim ond y Fritheg Berlog Fach rwy’n ei gweld yno,” meddai.
“Ond mae’r Fritheg Berlog, yn fy marn i, wedi diflannu.
“Mae hynny’n batrwm rydyn ni’n ei weld ar draws y DU.”
Mae lindys y Fritheg Berlog yn bwydo ar fioledau ac mae angen golau haul a gwres arnyn nhw i dyfu.
Dywedodd Mr Gale fod colli cynefinoedd yn parhau i fod yn un o’r prif fygythiadau i rywogaethau prin.
“Mae’r cynefinoedd, yn enwedig i’r glöynnod byw arbenigol, yn mynd yn brinnach,” meddai.
“Mae llai ohonyn nhw ac mae’r pellter rhyngddyn nhw’n cynyddu.
“Dydy’r glöynnod byw ddim yn gallu teithio rhyngddyn nhw bellach.”
Dywedodd hefyd fod un o dri safle yng Ngheredigion lle’r oedd wedi gweld y Gweirlöyn Mawr y Waun wedi cael ei aredig ddwy flynedd yn ôl, gan adael dim ond dau safle lle mae’n gwybod bod y rhywogaeth yn parhau.
Cyfrifiad cenedlaethol
Daw ei sylwadau wrth i fudiad y Butterfly Conservation ddweud y gallai’r DU fod ar fin gweld nifer fawr o löynnod byw, ac o bosib “haf y fantell dramor”.
Dywedodd yr elusen fod y gwanwyn cynnes a sych wedi creu amodau da i löynnod byw fridio ac i lindys dyfu.
Ond maen nhw'n dweud nad oes modd gwybod yn sicr sut mae’r rhywogaethau’n ymdopi heb ragor o wybodaeth gan y cyhoedd.
Maen nhw'n gofyn i bobl gymryd rhan yng Nghyfrifiad Mawr y Glöynnod Byw rhwng 17 Gorffennaf a 9 Awst.
Dywedodd Kate Merry, pennaeth ymgysylltu Butterfly Conservation: “Ar ôl y gwanwyn lliwgar, gyda llawer o löynnod byw hardd i’w gweld ar draws y DU, mae’n demtasiwn tybio ein bod ar ein ffordd at haf da iawn.
“Ond dim ond rhan o’r stori yw gwanwyn disglair, a dyna pam mae angen i bobl gymryd rhan yng Nghyfrifiad Mawr y Glöynnod Byw yr haf hwn.”
Mae’r elusen yn dweud bod pedwar o bob pum rhywogaeth o löyn byw wedi dirywio dros y 50 mlynedd diwethaf oherwydd colli cynefinoedd, llygredd a newid hinsawdd.
