Yr aros ar ben i chwaraewyr Grand Theft Auto wedi 13 o flynyddoedd

GTA VI

Hir yw pob aros - ac wedi 13 o flynyddoedd, mae'r aros hwnnw ar ben i filiynau o chwaraewyr y gêm gyfrifiadurol hynod boblogaidd 'Grand Theft Auto' ddydd Iau.

Gyda'r fersiwn newydd -  GTA VI - yn cael ei rhyddhau yn y DU o hanner nos, mae disgwyl i filoedd o bobl ffonio'r gwaith i ddweud eu bod yn sâl neu gymryd gwyliau i chwarae’r gêm newydd y mae cymaint o ddisgwyl wedi bod amdani.

Yn ôl arolwg gan Uswitch a gomisiynwyd yn gynharach y mis hwn, mae tua 2.8 miliwn o oedolion yn y DU yn bwriadu chwarae’r gêm ar y diwrnod y caiff ei rhyddhau.

Mae rhai ysgolion wedi annog disgyblion i beidio â defnyddio rhyddhau’r gêm, sydd yn addas i chwaraewyr 18 oed a hŷn, fel esgus i fethu gwersi.

Pwysau band eang

Mae cwmnïau band eang wedi paratoi ar gyfer y galw sylweddol y mae disgwyl ei weld i'w rhwydwaith, gyda'r broses o lawrlwytho’r gêm o flaen llaw yn unig wedi torri record yn y DU.

Disgrifiodd BT ac EE ryddhau GTA VI fel “digwyddiad lawrlwytho gemau digynsail,” oherwydd maint y gêm a nifer y bobl fydd yn ei chwarae.

Fe arweiniodd y broses o'i lawrlwytho o flaen llaw at yr ail gyfran uchaf erioed o ran traffig band eang ar rwydweithiau BT.

Dim ond y gêm rhwng Arsenal ac Atletico Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr ym mis Mai sydd wedi bod yn uwch.

Fe wnaeth Virgin Media O2 gofnodi'r swm uchaf erioed o'r defnydd o ddata dyddiol ddydd Mawrth diwethaf wrth i'r gêm ddod ar gael i'w lawrlwytho o flaen llaw.

Fersiwn flaenorol o Grand Theft Auto - GTA V - o 2013 yw un o'r gemau cyfrifiadurol mwyaf poblogaidd erioed.

Dywedodd y gadwyn siopau John Lewis ei bod wedi gweld cynnydd o 62% o flwyddyn i flwyddyn mewn gwerthiant peiriannau gemau cyfrifiadurol, tra bod Currys wedi adrodd am gynnydd o 149% mewn consolau PlayStation 5 yn unig.

Yn ôl i Vice City

Mae GTA VI yn dychwelyd i strydoedd Vice City, sydd wedi ymddangos mewn rhannau blaenorol o'r gyfres, sef fersiwn ffuglennol y datblygwyr Rockstar o Miami.

Mae'r gêm yn dilyn dau brif gymeriad, Jason Duval a Lucia Caminos, sy'n disgyn i mewn i gynllwyn troseddol yn nhalaith ffuglennol Leonida, sydd wedi'i hysbrydoli gan Florida.

Mae'r ddau yn cael eu tynnu i mewn i stori droseddol yn arddull Bonnie a Clyde ar ôl i "gynllun i wneud arian yn hawdd fynd o'i le", gan olygu eu bod "wedi'u gorfodi i ddibynnu ar ei gilydd yn fwy nag erioed os ydyn nhw am ddianc yn fyw".

Llun: Rockstar

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.