Arestio dynes ar ôl i bedwar dyn gael eu trywanu yng nghanol Llundain

Covent Garden

Mae dynes wedi cael ei harestio ar ôl i bedwar dyn gael eu trywanu yn Covent Garden yng nghanol Llundain, yn ôl Heddlu'r Met.

Cafodd y pedwar dyn eu cludo i ganolfan drawma fawr yn dilyn y digwyddiad ar Stryd Endell brynhawn Mercher.

Dywedodd Heddlu'r Met fod y dynion, sy'n 34, 39, 42 a 52 oed, wedi'u canfod gydag anafiadau trywanu.

Cafodd y dynion eu cludo i'r ysbyty, lle mae dau yn parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau nad ydynt yn peryglu eu bywydau.

Mae'r ddau ddyn arall bellach wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Cafodd dynes, sy'n 47 oed, ei harestio ar amheuaeth o feddu ar arf ymosodol ac o ymosod.

Mae hi wedi cael ei chludo i'r ddalfa.

'Digwyddiad unigol'

Yn ôl Heddlu'r Met, y gred yw bod y digwyddiad yn "ymwneud ag iechyd meddwl", gyda swyddogion yn dod o hyd i siswrn ar y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Llundain: "Fe wnaethom anfon criw ambiwlans, parafeddyg mewn car ymateb cyflym a swyddog ymateb i'r digwyddiad. Fe wnaethom hefyd anfon Ambiwlans Awyr Llundain.

"Fe wnaethom drin pedwar claf yn y fan a'r lle cyn mynd â nhw i gyd ar frys i ganolfan drawma fawr."

Yn gynharach, roedd Heddlu'r Met wedi dweud bod tri pherson wedi cael eu trywanu. 

Ond mewn datganiad diweddarach, cadarnhaodd y llu fod pedwar dyn wedi'u canfod gydag anafiadau trywanu.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Jason Stewart, sy'n gyfrifol am blismona yn yr ardal: "Fe wnaeth swyddogion ymateb o fewn munudau i'r digwyddiad ar ôl derbyn nifer o adroddiadau.

"Er bod yr ymchwiliad yn dal yn ei gamau cynnar, hoffwn dawelu meddwl y gymuned ein bod ar hyn o bryd yn credu mai digwyddiad unigol oedd hwn, sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.

"Bydd swyddogion yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i dystiolaeth gael ei chasglu o'r fan a'r lle. 

"Rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu dealltwriaeth."

Llun: PA

 
 
 
 
 
 


 

 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.