Arestio dyn yn dilyn bygythiad bom ffug yn Aberystwyth
Llun: Google Maps
Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiad am fygythiad bom yn Aberystwyth.
Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i stryd Gerddi Gwyrddion yn ardal Trefechan o'r dref tua 16:40 ddydd Gwener, 16 Hydref.
Cafodd dyn o ardal Aberystwyth ei arestio ar amheuaeth o gyfleu bygythiad bom ffug a bod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant.
Mae'r dyn bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.