Arestio dau yn eu harddegau ar ôl tân gwyllt ar fynydd ger Castell-nedd
Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â thân a gafodd ei gynnau’n fwriadol ar Fynydd Drumau yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Roedd y tân sylweddol i’w weld mor bell i ffwrdd ag Abertawe nos Lun.
Roedd diffoddwyr tân o orsafoedd tân Castell-nedd, Pontardawe, Tre Rheinallt, Canol Abertawe, Port Talbot, Dyffryn Aman, Llanelli a Rhydaman wedi ymateb i’r digwyddiad.
Fe gafodd pobl yr ardal gyngor i gadw draw ac i beidio ag agor eu ffenestri.
Mae bachgen 15 oed o Fynachlog Nedd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio cynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.
Mae bachgen 17 oed o Sgiwen wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol, gan fod yn ddi-hid ynghylch a fyddai bywyd yn cael ei beryglu, ac o achosi difrod troseddol i eiddo.
Mae’r ddau yn parhau yn nalfa’r heddlu.
