Ann Widdecombe 'wedi'i tharo ar ei phen gyda morthwyl 21 o weithiau'

Llun: Reuters
Ann Widdecombe

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio Ann Widdecombe drwy ei tharo 21 gwaith ar ei phen â morthwyl.

Fe ymddangosodd Joshua Kerry, 28 oed, o Rotherham yn Sir De Efrog, yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth mewn cysylltiad â marwolaeth y cyn-weinidog Ceidwadol a ddaeth yn llefarydd ar ran Reform UK.

Cafodd Kerry ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Miss Widdecombe ar 11 Gorffennaf, deuddydd ar ôl i'r gwleidydd, a oedd yn 78 oed, gael ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Haytor, Dartmoor.

Cafodd Kerry ei arestio hefyd ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi a chymell gweithredoedd terfysgol, ond nid yw wedi cael ei gyhuddo o'r drosedd hon.

Cyfweliad

Dywedodd Kashif Malik ar ran yr erlyniad nad oedd Miss Widdecombe wedi mynychu cyfweliad ar-lein a oedd wedi’i drefnu ymlaen llaw ychydig cyn 13.00 ar 8 Gorffennaf - cyfweliad a fyddai wedi cael ei ddarlledu’n fyw ar raglen Matt Allwright ar Channel 5.

Mae'r llys yn dweud fod tîm cynhyrchu’r rhaglen wedi ceisio cysylltu â Miss Widdecombe drwy ei chynorthwyydd personol, a ofynnodd wedyn i arddwr y teulu fynd i weld a oedd popeth yn iawn gyda hi.

Dywedodd yr erlynwyr iddo ddod o hyd i’r gwleidydd yn gorwedd wyneb i lawr ar lawr ei chegin y diwrnod canlynol, gydag anaf difrifol i’w phen.

Yn ôl Mr Malik, roedd Miss Widdecombe, ar 8 Gorffennaf, wedi bod yn bwyta cinio pan wnaeth Kerry, yn ôl honiadau, yrru i fyny y tu allan i flaen ei thŷ mewn Vauxhall Corsa goch a mynd i mewn drwy’r drws ffrynt.

Yna fe wnaeth Kerry ddefnyddio morthwyl yn honedig i daro Miss Widdecombe ar ei phen 21 o weithiau, yn ôl y llys.

Yn ôl honiadau roedd wedi ei throi oddi ar ei chadair a chymryd waled o’i bag cyn gadael a gyrru i ffwrdd, ar ôl bod yn y tŷ am ddau funud yn unig.

Cofnodwyd achos marwolaeth dros dro fel "anaf difrifol i'w phen o achos grym sylweddol" ('severe blunt force head injury').

Fe wnaeth Kerry, a oedd â barf ac yn gwisgo tracwisg llwyd, siarad i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn yr Old Bailey yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.