'Anhygoel': Elfyn Evans yn ennill Rali Japan
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi sicrhau buddugoliaeth yn Rali Japan.
Roedd y gŵr o Ddinas Mawddwy, a'i gyd-yrrwr Scott Martin, wedi ennill ar ôl cymal olaf fore Sul.
Enillodd â bwlch o 13.3 eiliad dros Sebastien Ogier, a orffennodd yn yr ail safle.
Wedi ei fuddugoliaeth dywedodd Elfyn Evans wrth RalioS4C bod ennill yn Japan yn "anhygoel." Dyma oedd y trydydd tro iddo ennill y rali yn ystod ei yrfa.
“Penwythnos anhygoel yn y diwedd," meddai.
“Ennill yma eto i’r tîm cartref i Toyota yn Japan yn anhygoel.
“Diolch i bawb am yr holl gefnogaeth, mae eisiau mwynhau hwn.”
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2060991634125258889
Mae buddugoliaeth yn golygu bod Evans yn ymestyn ei fantais ar frig Pencampwriaeth Rali’r Byd, a hynny hanner ffordd drwy’r tymor.
Bydd y rali nesaf rhwng 25 a 28 Mehefin yng ngwlad Groeg.

