'Angen i'r system ad-dalu benthyciadau myfyrwyr fod yn fwy teg'
'Angen i'r system ad-dalu benthyciadau myfyrwyr fod yn fwy teg'
Mae angen i'r system ad-dalu benthyciadau myfyrwyr fod yn fwy teg, yn ôl undeb sy'n eu cynrychioli
Mae NUS Cymru yn dadlau fod y llog sy'n rhaid i rai graddedigion ei dalu yn rhy uchel.
Mae Benthyciadau Myfyrwyr Cynllun 2 wedi eu cynnig i israddedigion o Gymru a ddechreuodd yn y brifysgol ers mis Medi 2012.
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy'n gyfrifol am delerau'r benthyciad, bod y system yn amddiffyn graddedigion ar gyflogau is.
Mae graddedigion yn ad-dalu 9% o'u cyflog pan maen nhw'n ennill cyflog o £28,460 y flwyddyn.
Mae cyfradd y llog ar fenthyciadau Cynllun 2 yn gyfystyr â chwyddiant mynegai prisiau manwerthu neu RPI, sydd ar hyn o bryd yn 3.2% a 3% yn ychwanegol yn ddibynnol ar faint mae rhywun yn ennill.
Ond fel mae'r incwm yn cynyddu, mae'r llog hefyd.
Mae'r rhai ar Gynllun 1 a 5 a ddechreuodd yn y brifysgol cyn 2012 yng Nghymru yn talu 3.2%.
Ond mae'r ddyled yn cael ei dileu ar ôl 30 o flynyddoedd heb unrhyw oblygiadau ar raddedigion.
Yn ôl ffigyrau, mae graddedigion Cymru ar gyfartaledd yn gadael y brifysgol gyda dyled o £35,000.
Yn ei chyllideb ym mis Tachwedd, fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai'r trothwy cyflog mae'n rhaid ad-dalu'r benthyciadau yn cael ei rewi ar £29,385 am dair blynedd o fis Ebrill 2027.
Ond mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi diystyru rhewi'r trothwy i raddedigion Cymru.
'Treth gudd'
Fe raddiodd Tomos Griffiths, 23, sy'n byw yng Nghaerdydd, mewn hanes ac economeg yn 2024.
Fe wnaeth hefyd gwrs meistr mewn Economeg Ariannol ac mae newydd ddechrau ei swydd gyntaf gan hyfforddi i fod yn ymgynghorydd ariannol.
"Dydi o ddim yn gwneud sense i fi a dydi o ddim fy nharo i fel system deg," meddai.
"Dwi'n teimlo 'i fod o'n targedu grŵp penodol o bobol sy'n ennill dros £28,000 a llai na £66,000.
"Ti angen ennill mwy na £66,000 (y flwyddyn) i allu cael gwared â'r llog sy'n gyflog uchel uffernol."
Ychwanegodd nad oes llawer o raddedigion yn ymwybodol o'r sefyllfa ac nad ydi pobol yn deall "pa mor sydyn" mae'r llog yn cynyddu.
"Mae o'n dreth gudd er mwyn targedu grŵp pobol sydd ddim ar y pres uchaf ond sy'n gallu talu canran bach o'u cyflog yn ôl."
Yn ôl Deio Owen, Llywydd NUS Cymru, mae'r sefyllfa bresennol yn "anghynaladwy" ac yn rhoi pwysau ariannol ar raddedigion.
"Mae angen system deg lle mae'r llog yn rhesymol. Ar hyn o bryd mae o'n mynd yn uwch ac yn uwch."
Dywedodd Dr Gwion Williams, darlithydd mewn cyllid ym Mhrifysgol Bangor, na fydd y rhan fwyaf o fenthyciadau myfyrwyr yn cael eu talu yn ôl mewn 30 o flynyddoedd.
"Os ydi rhywun ar gyflog uchel mae yna fwy o siawns y byddwch yn talu'r ddyled felly mae'r llog yn bwysig iddyn nhw," meddai.
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Fe wnaethom ni etifeddu benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2 gan y llywodraeth flaenorol.
"Mae rhewi'r trothwy wedi cael ei gyflwyno i amddiffyn trethdalwyr a myfyrwyr nawr, ar y cyd â dysgwyr a gweithwyr y dyfodol.
"Mae'r system gyllid fyfyrwyr yn amddiffyn graddedigion sydd ar gyflogau is, gydag ad-daliadau yn ddibynnol ar incwm a hefyd benthyciadau a llog yn cael ei ddileu ar ddiwedd telerau’r ad-daliad."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gan Gymru'r pecyn mwyaf hael o gymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr gwledydd y DU, gyda chymorth grant sylweddol nad oes rhaid ei ad-dalu.
"Ar hyn o bryd rydyn ni’n ceisio barn drwy ein Galwad am Dystiolaeth ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd cyllid myfyrwyr."
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae cyfle am brentisiaeth yn brin, mae dod o hyd i waith yn anodd, ac mae gwneud addysg yn ddrytach yn rhwystr arall.
Dweud mae Plaid Cymru bod angen newid radical yn y ffordd y mae cyllid myfyrwyr yn gweithio ac mi fyddan nhw yn cynnal adolygiad annibynnol i edrych ar y sefyllfa.
Mae 'na ormod o bobl ifanc mewn dyled myfyrwyr yn ôl plaid Reform UK a phrinder sylweddol o bobl mewn nifer o ddiwydiannau gwahanol.
Mi fyddai Plaid Werdd Cymru hefyd yn cynnal adolygiad annibynnol i edrych ar y drefn bresennol ac maen nhw o blaid cael gwared â ffioedd myfyrwyr yn y tymor hir.
Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am ymateb hefyd.
