Angen i arfau niwclear y DU ‘fod yn annibynnol o America’

Ed Davey

Mae angen i arfau niwclear y DU fod yn weithredol annibynnol o’r Unol Daleithiau, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey.

Mae’r DU yn gallu tanio arfau niwclear Trident heb ganiatâd yr Unol Daleithiau.

Ond mae’r arfau yn cael eu cynhyrchu a’u darparu gan yr Unol Daleithiau ac yn ddibynnol ar eu gwaith cynnal a chadw nhw.

Yn ei araith yng nghynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol yn Efrog, dywedodd Syr Ed nad oedd UDA bellach yn “gynghreiriad dibynadwy” dan arlywyddiaeth Donald Trump.

“Mae’n rhaid i ataliad niwclear Prydain fod yn eiddo i ni - nid yn ddibynnol ar Trump na phwy bynnag fydd yn ei olynu,” meddai.

“Mae Trump wedi profi na allwn ddibynnu ar America fel cynghreiriad dibynadwy.

“Mae gan Brydain y gwyddonwyr gorau, y peirianwyr gorau, a’r adeiladwyr gorau yn y byd. 

“Felly gadewch i ni fynd ati i adeiladu ein hataliad niwclear gwirioneddol annibynnol ein hunain yma yn y DU. Wedi’i wneud ym Mhrydain.”

Daw ei sylwadau wrth i Donald Trump feirniadu penderfyniad y DU i beidio ag ymuno â rhyfel America ag Israel yn Iran.

Mae arlywydd yr UDA hefyd wedi gwrthdaro â chynghreiriaid traddodiadol y wlad yn Ewrop oherwydd ei awydd i feddiannu'r Ynys Las (Greenland), sy’n rhan o Deyrnas Denmarc.

Mae llongau tanfor Vanguard sy’n cario arfau niwclear Trident wedi’u lleoli yn Faslane, ar arfordir gorllewinol yr Alban. 

Cyn bo hir fe fyddan nhw’n cael eu disodli gan longau tanfor newydd Dreadnought sy’n cael eu hadeiladu yn Barrow-in-Furness, Cumbria.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.