'Angen addasu' bwydo adar yn yr ardd er mwyn eu diogelu

Llun: Reuters
Adar yn bwyta bwyd

Mae elusen adar fwya'r wlad yn dweud bod "angen addasu" wrth fwydo adar yn yr ardd, a hynny er mwyn sicrhau bod eu dyfodol.

Yn ôl yr RSPB mae cannoedd ar filoedd o bobl ledled y DU yn gosod bwyd allan yn yr ardd ar gyfer adar yn ystod y flwyddyn.

Ond mae'r elusen yn dweud na ddylai pobl wneud hynny rhwng 1 Mai a 31 Hydref, gan fod misoedd yr haf yn gallu achosi bwydwyr (feeders) adar i fod yn lle sy'n datblygu clefydau neu heintiau a allai fod yn niweidiol i adar.

Mae lledaeniad clefyd trichomonosis wedi achosi gostyngiad mewn sawl rhywogaeth sydd fel arfer i'w gweld yn aml mewn gerddi, adar megis y Llinosiaid Gwyrdd.

Dywedodd Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Alun Prichard fod angen i bobl "fod yn dymhorol" wrth baratoi bwyd i adar.

“Mae bwydo adar yn rhywbeth y mae miliynau ohonom yn ei garu, ac yn ei werthfawrogi, ond mae'r wyddoniaeth yn dangos i ni fod adar fel y Llinosiaid Gwyrdd wedi cael eu heffeithio gan ledaeniad clefydau ger offer bwydo adar.”

Ychwanegodd yr RSPB, er gwaethaf y risgiau, mae bwydo adar yr ardd yn parhau i fod yn hynod fuddiol pan gaiff ei wneud yn ddiogel ac ar adegau priodol o'r flwyddyn. 

Mae canlyniadau ymgyrch 'Gwylio Adar yn yr Ardd' gan yr RSPB eleni wedi dangos bod nifer y llinosiaid gwyrdd wedi gostwng.

Fe wnaeth 32,306 o bobl ar draws Cymru cymryd rhan eleni, gan gyfri cyfanswm o 579,785 o adar.

Mae'r digwyddiad yn fath o arolwg bywyd gwyllt mewn gerddi ac yn cael ei gynnal yn flynyddol ledled y DU.

Wrth i nifer rhai adar ostwng, mae RSPB Cymru yn rhoi cymorth newydd i bobl ar sut i gadw eu bwydwyr adar yn lân ac yn ddiogel.

Maen nhw'n dweud:

Glanhewch a symudwch eich bwydwyr yn wythnosol: Ewch i’r arfer o lanhau eich bwydwyr yn drylwyr o leiaf unwaith yr wythnos. Os yn bosibl, rhowch eich bwydwyr mewn lleoliad gwahanol ar ôl i chi lanhau er mwyn atal unrhyw fadwch rhag cronni oddi tano. 

Newidiwch y dŵr bob dydd: Cynigiwch ddŵr dim ond os ydych chi'n gallu ei newid bob dydd a gwnewch yn siŵr ei fod yn ddŵr tap. Dylid glanhau baddonau dŵr yn wythnosol hefyd.

Rhoi'r gorau i fwydwyr gwastad neu fyrddau bwydo: Mae ymchwil wedi cadarnhau bod risg uwch o'r clefyd yn lledaenu ar arwynebau gwastad, lle gall bwyd halogedig gasglu i adar eraill ei fwyta. Mae hyn yn golygu ffarwelio â bwydwyr sydd ag unrhyw arwynebau gwastad - gan gynnwys byrddau adar traddodiadol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.