‘Andy Burnham yn arddel yr un gwerthoedd’ meddai Prif Weinidog Cymru

Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham

Mae’n dda cael Prif Weinidog yn San Steffan sydd o bosib yn “arddel yr un gwerthoedd” ag yntau, meddai Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Wrth siarad â Newyddion S4C ar faes yr Eisteddfod, dywedodd ei fod bellach yn sicr y bydd ganddo berthynas bersonol dda â’r Prif Weinidog newydd, Andy Burnham.

Ychwanegodd eu bod nhw wedi sgwrsio “sawl tro erbyn hyn”.

Ni lwyddodd Rhun ap Iorwerth i sicrhau cyfarfod gyda rhagflaenydd Andy Burnham, Keir Starmer, y tu hwnt i alwad ffôn gychwynnol.

Ond wrth ei holi ar faes yr Eisteddfod, dywedodd fod adeiladu perthynas “gadarnhaol” ag Andy Burnham yn bwysig iddo.

“Mae’n dda gweld San Steffan yn dilyn yr agenda Gymreig – da ni’n sôn am greu gwasanaeth gofal genedlaethol ers tro yma yng Nghymru,” meddai.

“Mae hi’n dda ystyried bod yna Brif Weinidog yn San Steffan o bosib sy’n arddel yr un gwerthoedd a minnau yn gyffredinol o ran ceisio bod yn flaengar.

“Fy ngwaith i efo fo wrth gwrs ydi trio cael dealltwriaeth ganddo fo o ran beth ydi sefyllfa Cymru, beth ydi anghenion Cymru.

“Dwi’n sicr y gallai gael perthynas dda efo fo yn bersonol, da ni wedi cyfarfod a sgwrsio sawl tro erbyn hyn.

“Mi fydd y berthynas honno yn bwysig rŵan wrth i fi drio cael y gorau wastad i Gymru.

“Dwi wedi gorfod sefyll dros Gymru a dyna fyddai yn ei wneud wrth ymdrin yn gadarnhaol a’r Prif Weinidog newydd.”  

‘Cyffrous iawn’

Wrth ddod i ddiwedd 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru mewn grym, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn gobeithio sefyll ar faes yr Eisteddfod mewn blwyddyn yn “dechrau gweld effaith” y buddsoddiadau maen nhw’n eu gwneud rŵan mewn meysydd “fel cynyddu capasiti llawdriniaethau yn y gwasanaeth iechyd”.

“Dwi’n gobeithio y byddwn ni yn gweld ehangiad pellach o fewn gofal plant, sydd mor bwysig i ni,” meddai.

“Bydd y gwaith o lunio yr Asiantaeth Ddatblygu newydd yn siapio a fydd yn rhoid golwg i bobl o’r math o economi gyffrous allwn ni lunio yma yng Nghymru.

“Dwi’n gyffrous iawn am y posibiliadau. Mae newidiadau yn bethau hoffen ni i ddigwydd fel yna,” meddai wrth glicio ei fysedd. “Mae pobl yn deall eu bod nhw’n cymryd dipyn bach hirach na hynny.

“Dwi’n edrych ymlaen dros y misoedd nesaf at weld newidiadau y Llywodraeth yn dwyn ffrwyth ym mha bynnag sector mae hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.