Andy Burnham yn addo 'bod yn arweinydd i Gymru' wrth gymryd awenau y Blaid Lafur

Andy Burnham

Mae Andy Burnham wedi addo bod yn arweinydd ar gyfer pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, wrth iddo gymryd awenau y Blaid Lafur ddydd Gwener.

Cyflwynodd y blaid Mr Burnham fel yr arweinydd newydd mewn cynhadledd arbennig yng nghanol Llundain am hanner dydd, cyn y bydd yn cael ei gadarnhau fel Prif Weinidog y DU ar ddydd Llun 20 Gorffennaf.

Yn ei araith yn derbyn yr arweinyddiaeth fe wnaeth Andy Burnham fynnu y byddai’n codi llais dros bob rhan o’r DU.

Dywedodd: “Byddaf yn arweinydd i’r gogledd, y de, y dwyrain a’r gorllewin, yn ogystal â’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

“Ydy, mae gogledd Lloegr wedi rhoi cymaint i mi - popeth, a dweud y gwir.

“Ac yn gyfnewid am hynny, rwyf wedi ceisio rhoi’r llais cryfaf posib iddo.

“Dyna oedd fy swydd, ond nawr rwy’n gwneud yr un peth dros bob rhan o’r wlad, oherwydd rwy’n gweld yr un heriau ble bynnag rwy’n edrych.”

'Barod i arwain'

Dywedodd bod y "dyddiau nesaf yn ymwneud â mwy na newid pwy sy’n llywodraethu Prydain,".

“Maen nhw’n ymwneud â newid sut mae Prydain yn cael ei llywodraethu.”

Diolchodd Andy Burnham i’r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, wrth iddo ddweud ei fod yn “barod i arwain”.

Dywedodd arweinydd newydd Llafur: “Mae hon yn foment falch rydych chi wedi’i rhoi i mi a fy nheulu heddiw, ac yn un emosiynol.

“Ond mae’n foment rwy’n barod amdani. Rwy’n barod, yn barod i arwain ac i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan un person yn fwy na neb arall.

“Dan arweinyddiaeth Keir Starmer, fe aethon ni o’n colled waethaf i un o’r buddugoliaethau gorau yn ein hanes.

“Fe roddodd Keir Lafur ni mewn sefyllfa i newid bywydau pobl, a dyna beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Ychwanegodd: “Heddiw, rydyn ni’n diolch i Keir am ei wasanaeth i’n plaid ac i’n gwlad.”

Burnham, yr aelod newydd dros etholaeth Makerfield, oedd yr unig AS Llafur i ymuno â chystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid, wedi i Syr Keir Starmer gyhoeddi ei ymddiswyddiad fis diwethaf.

Fe wnaeth y mwyafrif helaeth o aelodau Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin, sef 322, bleidleisio o blaid dewis Mr Burnham fel yr arweinydd newydd mewn pleidlais wythnos diwethaf.

Pan fydd Keir Starmer yn gadael Rhif 10 ddydd Llun, ef fydd y Prif Weinidog Llafur sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod byrraf, sef dwy flynedd a 15 diwrnod.

Bydd ei gyfnod yn y swydd 126 diwrnod yn hirach na chyfnod Rishi Sunak, ond 303 diwrnod yn fyrrach na chyfnod Gordon Brown yn Rhif 10.

Ymateb

Wrth ymateb i Andy Burnham yn cael ei goroni’n arweinydd newydd y Blaid Lafur, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS eu bod yn "barod i weithio’n adeiladol gyda’r Prif Weinidog newydd i wella bywydau pobl yng Nghymru".

“Rhaid i arweinydd newydd y Blaid Lafur a’r Prif Weinidog nesaf fabwysiadu dull gwahanol o lywodraethu os yw am lynu wrth ei egwyddorion o blaid datganoli," meddai.

"Ar ôl blynyddoedd o anghydraddoldeb oedd wedi’i ganoli’n ormodol, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn nodi dechrau perthynas fwy parchus a chynhyrchiol rhwng Cymru a San Steffan.

“Mae gan Blaid Cymru fandad gan bobl Cymru i fynnu mwy o ddatganoli, gan gynnwys pwerau dros reilffyrdd, Ystâd y Goron, cyfiawnder a phlismona. Mae Andy Burnham wedi dweud ei ddweud am ddatganoli, nawr mae’n bryd iddo weithredu a pharchu’r mandad hwnnw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.