Andrew wedi elwa'n ariannol o is-osod tri bwthyn ar ei ystâd

Tywysog Andrew

Fe dderbyniodd Andrew Mountbatten-Windsor incwm preifat am is-osod ('sub-let') tri bwthyn ar ei ystâd y Royal Lodge wrth dalu rhent bychan iawn am fwy na dau ddegawd, yn ôl ymchwiliad newydd.

Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad ar drefniadau eiddo preswyl y teulu brenhinol ar ôl dadl am brydles y cyn-ddug ar ei gartref sy'n eiddo i Ystâd y Goron.

Mae canfyddiadau eraill gan y corff gwarchod gwariant cyhoeddus yn cynnwys datgelu bod y Brenin yn talu am lety'r Dywysoges Beatrice a'r Dywysoges Eugenie mewn palasau brenhinol er bod dwy ferch Andrew yn aelodau o'r teulu brenhinol sydd i bob pwrpas yn ddi-waith.

Ac am nifer o flynyddoedd, roedd eu taliadau rhent yn seiliedig ar brisiau marchnad agored oedd wedi dyddio.

Hyd at eleni, roedd rhent Eugenie o Ivy Cottage ym Mhalas Kensington yn seiliedig ar brisiad yn 2018 a fflat Beatrice ym Mhalas St James ar brisiad yn 2020.

'Gwarthus'

Dywedodd y cyn-weinidog o'r Democrataidd Rhyddfrydol, Norman Baker, sydd wedi bod yn feirniad o drefniadau cyllid y Teulu Brenhinol ers cryn amser, fod y trefniadau'n "warthus".

"Mae'r cyfan yn warthus. Os edrychwch ar Andrew, mae hyn yn ychwanegu sarhad at anaf," meddai.

“Mae’n dangos dirmyg llwyr at y trethdalwr, nid yn unig bod Andrew wedi gallu cael rhent rhad am eiddo enfawr, ond yna gwneud miliynau o bosibl ar yr ochr o is-osod eiddo.

“Dylai’r arian fod wedi mynd i Ystâd y Goron, nid i’w bocedi.”

Ychwanegodd am Beatrice ac Eugenie: “Does dim ffordd y dylai aelodau nad ydynt yn gweithio o’r teulu brenhinol gael cymhorthdal ​​gan Ddugiaeth Lancaster.

“Mae’r teulu brenhinol unwaith eto’n twyllo’r cyhoedd.”

Awgrymodd ffynonellau nad oedd Andrew'n is-osod yr eiddo yn cynhyrchu elw iddo, a bod y rhent wedi’i osod ar gyfradd i dalu costau cynnal a chadw y staff sy’n byw yno yn unig.

Ni ryddhawyd unrhyw fanylion gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol am faint a enillodd Andrew drwy is-osod yr eiddo, sydd yn swm na ellir ei ddychwelyd i Ystâd y Goron, na faint mae'r Brenin yn ei dalu am rent Eugenie a Beatrice.

Dywedodd y Swyddfa Archwilio bod y ffigyrau'n breifat.

'Tryloywder'

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham: “Rydym yn ddiolchgar i’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol am yr adroddiad hwn, sy’n unol ag ymrwymiad y teulu brenhinol i dryloywder.

“Rydym yn gobeithio y bydd y canfyddiadau’n helpu i gywiro, egluro neu roi cyd-destun i nifer o bwyntiau ynghylch eiddo brenhinol. “

Fel mae’r adroddiad yn ei nodi, mae trefniadau ar gyfer eiddo a reolir gan y teulu brenhinol yn amrywio yn seiliedig ar nifer o ffactorau i sicrhau bod eiddo yn cael eu llenwi’n briodol, yn dibynnu ar eu lleoliad, eu tenantiaid a’u pwrpas.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.