Anaf difrifol i fachgen dwy oed wedi gwrthdrawiad ar iard ysgol feithrin

Ysgol Ellesmere Port

Mae bachgen dwy oed wedi cael anaf difrifol ar ôl i gar yrru drwy ffens ysgol feithrin yn Ellesmere Port, Sir Gaer.  

Mae dynes 63 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus wedi i'r bachgen gael niwed ar iard yr ysgol yn ardal Whitby toc cyn 10:00 fore Llun. 

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu hanfon yno, cyn i'r bachgen gael ei gludo i ysbyty gerllaw.

Yn ôl Heddlu Sir Caer, maen nhw wedi cysylltu â pherthnasau agosaf y bachgen.

Cafodd dau blentyn arall fân anafiadau yn y gwrthdrawiad.  

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae ein swyddogion ar y safle ar hyn o bryd, ac yn cynnal sawl ymchwiliad er mwyn darganfod yr holl amgylchiadau i'r hyn yr ydym yn credu sy'n achos unigol.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.