'Amodau erchyll': Gwahardd cynghorydd tref rhag cadw anifeiliaid fel moch a geifr

Wayne Erasmus

Mae cynghorydd tref yn Sir Gâr wedi cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid fel moch a geifr ar ôl iddyn nhw gael eu darganfod yn byw mewn "amodau erchyll" ar ei dir.

Fe wnaeth Wayne Erasmus, 66 oed, bledio'n euog i dri chyhuddiad o achosi dioddefaint i anifeiliaid wedi i 27 o eifr a moch oedd dan ei ofal gael eu darganfod mewn cynhwysydd ('container') gydag wrin ac ysgarthion ynddo.

Roedd Erasmus yn cadw'r anifeiliaid mewn cae oddi ar Ffordd Bolgoed ym Mhontarddulais, sydd ar y ffin rhwng Sir Gâr ac Abertawe.

Dywedodd Lee Reynolds ar ran yr erlyniad bod geifr a moch yn cael eu cadw yn y cynhwysydd yn y tywyllwch heb unrhyw fath o awyr iach.

Roedd bwyd oedd wedi pydru hefyd yn y cynhwysydd, ac roedd sawl anifail yn “socian ac yn crynu” wrth i’r awdurdod lleol ddod o hyd iddynt.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Iau bod Cyngor Abertawe wedi meddiannu'r anifeiliaid wedi iddyn nhw gael eu darganfod.

Bu farw sawl mochyn o fewn dyddiau iddyn nhw gael eu meddiannu gan y cyngor oherwydd yr amodau roeddynt yn byw ynddynt.

Image
Amodau tu fewn i'r cynhwysydd a'r cae lle'r oedd Erasmus yn cadw'r moch. Llun: Cyngor Abertawe
Amodau tu fewn i'r cynhwysydd a'r cae lle'r oedd Erasmus yn cadw'r moch. Llun: Cyngor Abertawe

Mae Erasmus sy'n cynrychioli plaid Gwlad yn gynghorydd tref yng Nghwmaman yn Sir Gaerfyrddin ac yn gynghorydd cymuned ym Mhengelli a Waungron yn Abertawe.

Roedd yn ymgeisydd dros blaid Gwlad yn etholaeth Sir Gaerfyrddin yn etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai. Enillodd 327 o bleidleisiau.

Mae'r cyhuddiadau yn dyddio o’r cyfnod rhwng 9 a 30 Ionawr 2024, ac fe gafodd yr achos ei ddwyn gan Gyngor Abertawe.

Plediodd yn euog i achosi dioddefaint diangen i anifeiliaid, rhwystro person sy’n arfer pwerau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yn fwriadol, a dyletswydd person sy'n gyfrifol am les anifeiliaid, mewn gwrandawiad ar 9 Ebrill 2026.

Cafodd ei wahardd rhag cadw anifeiliaid "o'r un natur" a moch a geifr ac fe roddodd y Barnwr Huw Rees orchymyn cymunedol o 18 mis iddo.

Image
Y cae ar Ffordd Bolgoed lle'r oedd Erasmus yn cadw'r anifeiliad a'r cynhwysydd
Y cae ar Ffordd Bolgoed lle'r oedd Erasmus yn cadw'r anifeiliad a'r cynhwysydd

Fe gafodd Erasmus cyfle i wella'r amodau cyn i anifeiliaid gael eu meddiannu, meddai Mr Reynolds, ond nid oedd wedi gwneud hynny. Dywedodd Mr Reynolds bod Erasmus “wedi cynyddu’r perygl” i’r anifeiliaid.

Clywodd y llys bod rhai anifeiliaid wedi cael eu cymryd oddi ar Erasmus yn dilyn ymweliadau blaenorol gan y cyngor, ond fe brynodd mwy a’u cadw “mewn amodau tebyg” cyn iddyn nhw hefyd gael eu meddiannu yn ddiweddarach.

Roedd anifeiliaid hefyd yn cael eu cadw mewn cae llawn “paledi o bren gyd darnau metel miniog” ac nid oedd gan y geifr a’r moch mynediad at ddŵr glan.

Mae nant yn rhedeg drwy’r cae sydd yn ffinio ag eiddo ffarm, ac fe gafodd esgyrn, darnau o groen ac ysgarthion anifeiliaid eu darganfod ynddi ar 22 Hydref 2025.

Roedd hysbysiad i Erasmus gael gwared ar yr eitemau, ond nid oedd wedi gwneud hynny.

Ychwanegodd Mr Reynolds nad oedd Erasmus yn achosi niwed i’r anifeiliaid yn fwriadol, ond nad oedd ganddo’r gallu i ofalu am nifer yr anifeiliaid dan ei ofal.

'Symud ymlaen'

Dywedodd Mr Matthew Murphy ar ran y diffynnydd, bod Erasmus wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl wedi "marwolaeth trasig" ei fab a gwahanu oddi wrth ei wraig wedi 28 mlynedd yn briod.

Ychwanegodd fod Erasmus yn gofalu am ei fam, sydd "methu gofalu am ei hun" yn 90 oed.

Wrth ddedfrydu Erasmus dywedodd y Barnwr Huw Rees bod angen iddo "dynnu llinell" dan ei "anhawsterau" gyda Chyngor Abertawe.

"Dwi'n argymell eich bod yn ceisio tynnu llinell gyda pha bynnag anhawsterau sydd gennych chi gyda'r cyngor.

"Mae'r amser wedi dod i chi symud ymlaen a chanolbwyntio ar helpu eich mam."

Nid oes modd i Erasmus gael mynediad at y cae ar hyn o bryd wedi gorchymyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.