‘Amhosib cyfiawnhau’ dedfrydu gŵr a gwraig i 10 mlynedd o garchar yn Iran

Lindsay a Craig Foreman

Mae’r Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper wedi dweud ei fod yn “gwbl amhosib cyfiawnhau” dedfryd o 10 mlynedd yn y carchar yn Iran i ŵr a gwraig o Brydain.

Cafodd Lindsay a Craig Foreman eu harestio ym mis Ionawr 2025 wrth deithio drwy’r wlad ar daith feic modur o amgylch y byd.

Mae’r cwpl, o Ddwyrain Sussex, yn gwadu cyhuddiadau o ysbïo.

Maen nhw’n cael eu cadw yng ngharchar Evin yn Tehran,.

“Mae’r ddedfryd hon yn hollol erchyll ac yn gwbl amhosib ei chyfiawnhau,” meddai Yvette Cooper.

“Byddwn ni’n mynd ar ôl yr achos yma’n ddiflino gyda llywodraeth Iran nes ein bod Craig a Lindsay Foreman yn dychwelyd yn ddiogel i’r DU at eu teulu.

“Yn y cyfamser, eu lles nhw yw’n blaenoriaeth a byddwn ni’n parhau i roi cymorth iddyn nhw ac i’w teuluoedd.”

Dywedodd Joe Bennett, mab Lindsay Foreman, wrth ITV News eu bod nhw wedi cael gwybod am y ddedfryd wythnos diwethaf a bod ei deulu yn “bryderus iawn” am les y ddau a’r “diffyg tryloywder” yn y broses farnwrol.

“Mae fy rhieni bellach wedi cael dedfryd o 10 mlynedd ar ôl achos llys a barodd ddim ond tair awr, a doedd yna ddim cyfle iddyn nhw gyflwyno amddiffyniad,” meddai.

“Maen nhw wedi gwadu’r honiadau. Dydyn ni heb weld unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cyhuddiad o ysbïo.

“Ry’n ni nawr yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu’n bendant ac yn defnyddio pob llwybr posib i sicrhau eu rhyddhau.”

Cyn ei ddedfrydu, dywedodd Mr Foreman fod ganddo neges un gair i Lywodraeth y DU.

“Un gair fyddai: help. Dyna ni,” meddai wrth ITV News.

“Dydw i ddim yn deall pam rydyn ni wedi bod yma am 13 mis, yn cael ein dal yn wystlon yn 2026. Pryd mae hyn am ddod i ben?”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.