America yn paratoi i ddanfon milwyr i Iran yn ôl adroddiadau
Mae America yn paratoi i ddanfon milwyr i Iran yn ôl adroddiadau yn yr Unol Daleithiau.
Ddydd Sul dywedodd y Washington Post bod y wlad yn ystyried danfon milwyr i'r tir yn Iran.
Mae'r papur newydd yn dweud eu bod wedi siarad gyda swyddogion yn y wlad a bod y Pentagon wedi bod yn paratoi ers wythnosau i osod milwyr ar y tir yno.
Byddai hyn ddim yn gyfystyr â "goresgyniad llawn" ac fe allai cynlluniau cynnwys milwyr arbenigol yn unig, meddai’r adroddiad.
Nid oes sicrwydd y byddai Donald Trump yn cymeradwyo'r cynlluniau hyn.
Mae'r arlywydd wedi dweud bod danfon milwyr ar y tir yn "wastraff amser" oherwydd bod Iran "eisoes wedi colli popeth."
Yn fwy diweddar mae wedi dweud "dwi ddim yn gosod milwyr unrhyw le", gan ychwanegu y bydd "yn sicr yn dweud" wrth y cyfryngau pe bai'n neud.
Nos Wener, fe wnaeth miloedd o swyddogion llynges America deithio i'r Dwyrain Canol ar longau rhyfel.
Dywedodd y wlad eu bod nhw wedi eu danfon i "ardal o gyfrifoldeb" ond nid yw eu hunion leoliad yn hysbys.
Dros nos mae'r rhyfel wedi parhau yn y Dwyrain Canol, gyda gwrthryfelwyr Houthi yn addo cynnal mwy o ymosodiadau "yn y dyddiau nesaf" wedi iddyn nhw ymosod ar Israel am y tro cyntaf ers dechrau'r rhyfel.
Mae Iran wedi rhybuddio y byddan nhw'n ymosod ar brifysgolion America ac Israel yn y Dwyrain Canol er mwyn dial ar ymosodiadau ar sefydliadau eu hun.
Yn Libanus mae tri newyddiadurwr wedi cael eu lladd yn dilyn taflegrau yn cael eu tanio gan Israel.
Mae America yn dweud eu bod yn "obeithiol" o gynnal cyfarfodydd gydag Iran wythnos yma er mwyn ceisio dod â'r rhyfel i ben.
Maen nhw wedi cynnig cytundeb "15 pwynt" i Iran ac maen nhw'n "disgwyl" ateb i'r cynnig hwnnw'r wythnos hon.