Ail garcharor yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Ian Watkins

Ian Watkins

Mae ail garcharor wedi gwadu llofruddio Ian Watkins, prif leisydd band y Lostprophets, yn y carchar.

Bu farw'r cyn-seren roc yn dilyn ymosodiad honedig fis Hydref diwethaf yng Ngharchar Wakefield, lle'r oedd yn treulio dedfryd o 29 mlynedd am droseddau rhyw yn erbyn plant.

Ddydd Gwener, fe wnaeth Rashid Gedel, 25 oed, sy'n cael ei adnabod fel Rico Gedel, ymddangos yn y llys gan bledio'n ddieuog i lofruddio Watkins.

Mae dyn arall, Samuel Dodsworth, 43 oed, wedi gwadu ei ran yn y drosedd honedig mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Tachwedd.

Roedd Gedel wedi gwrthod ymddangos mewn gwrandawiadau blaenorol dros gyswllt fideo, gan ddweud ei fod am ymddangos yn y llys.

Cafodd ei gludo i Lys y Goron Leeds ar gyfer y gwrandawiad dydd Gwener, lle plediodd yn ddieuog i lofruddiaeth bod â chyllell oedd wedi ei chreu o ddeunyddiau gwahanol yn y carchar.

Mae Gedel a Dodsworth wedi'u cyhuddo o lofruddio Watkins yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref.

Mae disgwyl i'w hachos ddechrau ar 5 Mai.

Cafodd Watkins ei garcharu am 29 mlynedd ym mis Rhagfyr 2013, gyda chwe blynedd arall ar drwydded, ar ôl cyfaddef cyfres o droseddau rhyw - gan gynnwys ceisio treisio baban.

Cafodd ei arestio yn dilyn cyrch cyffuriau yn ei gartref ym Mhontypridd ar 21 Medi 2012 pan ddaeth yr heddlu o hyd i nifer fawr o gyfrifiaduron, ffonau symudol a dyfeisiau storio data.

Fe wnaeth dadansoddiad o'i offer electroneg ddatgelu troseddau'r canwr.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty o'r carchar yn 2023 ar ôl dioddef ymosodiad.

Yn 2019, cafodd ei garcharu am 10 mis ychwanegol am fod â ffôn symudol yn y carchar.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.