Ai TikTok fydd yn achub y stryd fawr?
"Rydym ni wedi cael nifer o ymwelwyr sydd yn influencers rŵan."
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r stryd fawr mewn trefi a dinasoedd wedi dirywio'n sydyn, gyda miloedd o siopau'n cau ledled y Deyrnas Unedig.
Yn 2024, roedd tua 37 o siopau yn cau bob dydd yn y DU, gyda bron i 13,500 yn cau eu drysau am y tro olaf yn ystod y cyfnod.
Wrth i'r oes ddigidol ddatblygu gyda mwy a mwy o bobl yn siopa a chwilota ar-lein, ai'r platfform TikTok sydd am achub y stryd fawr?
Yn ddiweddar, mae 'dylanwadwyr bwyd', neu foodluencers sy'n bersonoliaethau ar y platfformau digidol, wedi bod yn annog a gyrru pobl i fwytai a siopau yn eu trefi lleol ar apiau fel TikTok ac Instagram - ond beth yn union yw dylanwadwr bwyd?
Yn syml, pobl sydd â dilyniant sylweddol ar-lein yn mynd ati i flasu bwydydd gwahanol, mynd i fwytai ac yn creu cynnwys yn ymwneud â bwyta bwyd.
Un sydd wedi profi dros 3 miliwn o ddilynwyr yw Kalani Smith o Tennessee yn America - a chyn y Nadolig buodd yn ymweld â Chonwy yng ngogledd Cymru.
Rhai misoedd ers iddo ymweld â'r stryd fawr yno, mae busnesau yn dweud eu bod wedi gweld twf mewn cwsmeriaid a hynny yn uniongyrchol o'r fideos cafodd eu creu yn y dref.
Un busnes lleol wnaeth Kalani Smith ymweld â nhw oedd Popty Conwy.
Dywedodd Craig Roebuck, sydd yn gweithio yn y becws bod pobl wedi ymweld yn gofyn os mai Popty Conwy oedd y becws y buodd Kalani Smith yn ymweld â nhw.
“Mae rhai cwsmeriaid yn gofyn i ni, 'ai hyn yw'r becws wnaeth Kalani dod i?'," meddai.
"Felly rydach chi’n gwybod bod nhw yn bendant yn dilyn y llefydd mae wedi bod.
“Rydym ni wedi cael nifer o ymwelwyr sydd ‘influencer’ rŵan, ac yn y dyddiau ac wythnosau wnaeth dilyn ei ymweliad rydym yn bendant wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant ar y cynhyrchion dan sylw”.
Mae defnydd dylanwadwyr i geisio hybu'r economi a thwristiaeth yn rhywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ei ddatblygu eleni.
Yn rhan o gynllun 'Blwyddyn Croeso 2025/26' mae Croeso Cymru, sydd yn sefydliad cyhoeddus dan law Llywodraeth Cymru yn gwahodd dros 100 o awduron teithio a dylanwadwyr i ymweld â Chymru "a rhannu eu straeon."
Ychwanegodd Croeso Cymru y byddai hyn yn amrywio i hybu tirlun Cymru, ac yn cynnwys gwyliau fel yr Eisteddfod a lleoliadau hanesyddol ar draws y wlad.
Wrth ymweld â Chonwy fe wnaeth Kalani Smith hefyd gyhoeddi fideos am hanes y dref, gan ymweld â Chastell Conwy a'r 'tŷ lleiaf yn y Deyrnas Unedig' sydd wedi ei leoli ar borthladd y dref.
Yn ôl Jade Barrett, sydd yn gweithio mewn siop trin gwallt ar y stryd fawr, mae'n bwysig bod dylanwadwyr yn "cyflwyno pobl i ddiwylliant a hanes" y trefi maen nhw'n ymweld.
"Mae eu fideos yn dod a mwy o dwristiaid i fewn, ac yn gwneud pobl yn ymwybodol am y busnesau sydd efallai heb gael cymaint o sylw o'r blaen.
“Ar ôl iddo ymweld penderfynais i fynd i mewn i'r pentre’ a dywedodd gymaint o bobl oedden nhw yna oherwydd wnaeth Kalani bostio amdani, felly mae’n amlwg yn dod a phobl i mewn
“Nid ond y busnesau, wnaeth o uwcholeuo'r hanes i gyd wrth ymweld â’r castell ac yn y blaen.
"Mae o’n fawr ar ei hanes, felly mae’n cyflwyno pobl i'r diwylliant a’r hanes Conwy, sy’n dod a fwy o bobl i fewn i’r pentref ac mae hynny'n bwysig."
'Heriol'
Yn ôl un perchennog busnes, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un heriol gyda llai o ymwelwyr na mewn blynyddoedd blaenorol.
Dywedodd Wendy Green, gweithiwr yn 'The Cheese Room' yng Nghonwy bod angen i'r cyngor wneud mwy i gefnogi busnesau, yn lle bod dylanwadwyr fel Kalani Smith yn gyrru pobl i'r dref.
“Mae’r flwyddyn ddiweddar wedi bod yn wahanol, dydi o heb fod fel blynyddoedd diweddar," meddai.
"Haf yw ein hamser prysur fel arfer, ond blwyddyn yma rydym ni wedi cael haf distaw a hydref bach mwy prysur, sy’n gallu bod yn ganlyniad o fideos gan Mr. Smith.
"Dwi bendant yn credu bod gan bobl lai o arian ac yn prynu llai, a hynny gan fod prisiau gan gyflenwyr wedi codi’n sydyn hefyd.
"Ond dwi'n credu bod angen i Gyngor Conwy gwneud mwy i gefnogi busnesau lleol, ni ddylai hynny ddisgyn ar dylanwadwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy eu bod yn gweithio'n "uniongyrchol" gyda busnesau ac yn "darparu cymorth sylweddol" iddynt.
"Mae gennym Dîm Cymorth Busnes pwrpasol a Thîm Twristiaeth, sy’n darparu canllawiau strwythuredig, cymorth ymarferol a chysylltiad parhaus i helpu busnesau i reoli pwysau ariannol, datblygu cyfleoedd a chryfhau eu gwydnwch hirdymor.
"Mae’r timau hyn yn gweithio’n uniongyrchol gyda busnesau ar faterion megis mynediad at grantiau, hyfforddiant, mentrau marchnata, rhaglenni datblygu canol tref a chyngor arbenigol un-i-un.
"Rydym yn cynnal cysylltiad rheolaidd â pherchnogion busnesau i ddeall heriau sy’n dod i’r amlwg ac ymateb yn briodol."