Aelodau Seneddol yn pleidleisio yn erbyn cyfeirio Keir Starmer at ymchwiliad Mandelson

Keir Starmer

Wedi pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin nos Fawrth, fydd Syr Keir Starmer ddim yn cael ei gyfeirio i'r Pwyllgor Breintiau i ystyried honiadau iddo gamarwain Aelodau Seneddol mewn cysylltiad â sgandal Peter Mandelson.  

Pleidleisiodd Aelodau Seneddol o 223 i 335 yn erbyn y cynnig. 

Mae Prif Weinidog y DU wedi gwadu iddo gamarwain Aelodau Seneddol pan nododd fod y broses wirio gywir wedi ei dilyn cyn penodi'r Arglwydd Mandelson yn Llysgennad ar gyfer yr Unol Daleithiau, ac nad oedd swyddogion o'r Swyddfa Dramor o dan "bwysau o gwbl" yn ystod y broses honno.

Fis Medi, cafodd yr Arglwydd Peter Mandelson ei ddiswyddo fel llysgennad Prydain i’r Unol Daleithiau wedi beirniadaeth chwyrn am ei gyfeillgarwch â’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Ddechrau Ebrill, daeth hi i'r amlwg fod Syr Keir Starmer "yn gandryll" am na chafodd wybod bod Peter Mandelson wedi methu archwiliad gwirio diogelwch cyn cael ei benodi'n Llysgennad y DU i'r Unol Daleithiau.

Yn fuan wedi hynny, collodd Syr Olly Robbins, prif was sifil y Swyddfa Dramor ei swydd.

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch wedi dweud sawl tro fod Syr Keir Starmer wedi camarwain "droeon" ar y mater hwn. 

Yn ôl Rhif 10 Downing Street, roedd y cais i gynnal pleidlais yn "gêm wleidyddol" gan y Blaid Geidwadol. 

Nos Lun, siaradodd Syr Keir Starmer ag aelodau seneddol y Blaid Lafur yn San Steffan, mewn cyfarfod a oedd wedi ei drefnu cyn y bleidlais nos Fawrth. 

Galwodd arnyn nhw i'w gefnogi a glynu gyda'i gilydd fel plaid.

Beirniadu hynny'n hallt wnaeth Arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch wrth agor dadl ar y pwnc yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Mawrth.

Dywedodd fod y Prif Weinidog yn ceisio osgoi proses archwilio. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.