'Aelod criw gwych': Teyrnged i wirfoddolwr bad achub yn y gogledd
Mae teyrnged wedi ei roi i wirfoddolwr o orsaf bad achub yr RNLI yn y gogledd.
Mewn datganiad, cyhoeddodd RNLI y Rhyl fod aelod o’r criw, Kyle Simpson, wedi marw’n sydyn.
Dywedodd llefarydd: “Ymunodd Kyle â'r orsaf gyda'r criw gwirfoddol diwethaf, ac fel gweddill ei garfan, roedd wedi bod yn gwneud cynnydd da gyda'i hyfforddiant, bob amser yn awyddus i ddysgu ac yn cyflawni ei rôl fel aelod o’r criw ar y lan ar sawl galwad.
“Er mai dim ond ychydig fisoedd yr oedd wedi bod yn aelod o’r criw, roedd cymeriad direidus Kyle yn disgleirio pan oedd yn yr orsaf.”
Bydd baner yr orsaf a’r faner goffa yn cael eu gostwng i hanner mast am gyfnod er cof amdano, yn ôl yr RNLI.
Ychwanegodd y llefarydd: “Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, roedd Kyle wedi bod yn mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir gan wirfoddolwr newydd, a byddai'n treulio llawer o'i amser yn cynorthwyo gyda cynnal a chadw gorsaf y bad achub a'i holl asedau.
“Hefyd, taflodd Kyle ei hun yn gyntaf i agwedd gymdeithasol yr orsaf, gan fynychu sesiynau ffitrwydd a dathliadau gyda'r criw yn rheolaidd.
“Byddwn yn colli Kyle a'i chwerthin heintus yn fawr.
“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Kyle yn ystod y cyfnod anodd hwn.”