Adroddiad damniol yn taflu goleuni ar dwyll cyn-gynghorydd o Wynedd
Mae adroddiad damniol newydd yn taflu goleuni ar dwyll cyn-gynghorydd o Wynedd, a'r amgylchiadau arweiniodd at ei wahardd rhag bod yn gynghorydd am dair blynedd.
Ym mis Rhagfyr fe wnaeth Newyddion S4C dorri'r newyddion fod tribiwnlys safonau wedi dod i'r casgliad fod y cyn-gynghorydd Iwan Huws o Gyngor Gwynedd wedi torri côd ymddygiad i gynghorwyr.
Roedd Mr Huws wedi derbyn rhybudd amodol gan yr heddlu yn 2023 am y drosedd o “dwyll drwy gamddefnyddio swydd”, drwy geisio twyllo ei gyflogwr wrth gamddefnyddio arian meddai tribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru.
Ar y pryd roedd yn gweithio i Gyngor Ynys Môn fel Uwch Swyddog Morwrol.
Nawr mae'r tribiwnlys safonau wedi cyhoeddi adroddiad yn manylu ar eu dyfarniad - gan fanylu hefyd ar union natur twyll y cyn-gynghorydd.
Roedd Mr Huws yn cynrychioli ward Bethel a'r Felinheli ar ran Plaid Cymru tan iddo ymddiswyddo ym mis Medi y llynedd.
'Cuddio' trosedd
Mae'r adroddiad yn chwyrn ei feirniadaeth o Iwan Huws, gan ddweud ei fod "wedi bwriadu parhau’n aelod o’r Cyngor Sir, er gwaethaf ei ymddygiad ac i bob golwg, heb gydnabod difrifoldeb y drosedd, ond ceisio’i chuddio rhag ei etholwyr".
"Er ei fod yn ymddiheuro ac yn gofyn am drugaredd, ei brif amcan oedd cadw’r cyfan yn ddistaw a sicrhau na fyddai’i enw da na’i yrfa wleidyddol yn cael eu heffeithio gan ei ymddygiad," meddai'r adroddiad.
"Awgryma hynny nad yw’r Atebydd ('Respondent') ag unrhyw wir fewnwelediad i ddifrifoldeb ei ymddygiad, na chwaith edifeirwch am yr hyn a wnaeth ond yn hytrach, ei fod yn gresynu iddo gael ei ddal a chydnabod ei drosedd."
Cyfrif banc personol
Yn gefndir i ganfyddiadau Panel Dyfarnu Cymru, mae eu hadroddiad yn nodi fod Iwan Huws:
- Yn ei swydd fel Uwch Swyddog Morwrol Cyngor Môn, wedi gofyn i gwmni ffilmio anfon ffi o £3,000 i'w gyfrif banc personol ei hun am gael llogi pier Biwmares am ddau ddiwrnod yn 2023.
- Gofynnodd i'r taliad gael ei wneud drwy drosglwyddiad banc. Daeth y cwmni cynhyrchu'n ymwybodol o anghysondebau gyda'r taliad, ac fe wnaeth Mr Huws ddileu nifer o ebyst yr oedd wedi eu hanfon i'r cwmni. Cafodd ymchwiliad ei gynnal i'r mater gan Gyngor Môn.
- Canfuwyd bod manylion y cyfrif banc a oedd wedi'u cynnwys yn yr anfoneb i'r cwmni cynhyrchu yn eiddo i Iwan Huws ac fe gafodd y mater ei gyfeirio i'r heddlu.
- Derbyniodd Mr Huws Rybudd Amodol gan Heddlu Gogledd Cymru ar 19 Rhagfyr 2023. Yr amod oedd ei fod yn ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad i’w gyflogwr, sef Cyngor Sir Ynys Môn.
- Ymddiswyddodd o'i swydd gyda Chyngor Sir Ynys Môn ym mis Medi 2023.
Roedd y gŵyn am Iwan Huws wedi ei chyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ym mis Gorffennaf 2025.
Mae Panel Dyfarnu Cymru yn dribiwnlys annibynnol, gyda'r gwaith o benderfynu ar honiadau o dorri rheolau gan aelodau etholedig o gynghorau'r wlad.
Roedd swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) eu hunain wedi cynnal ymchwiliad i'r mater a chynnal cyfweliad gyda Mr Huws.
Dywedodd yr adroddiad bod Iwan Huws wedi cyfaddef yn ystod y cyfweliad gyda'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ei fod wedi cyflawni'r drosedd.
Ychwanegodd fod y cais gan y cwmni “wedi'i roi o dan gyfyngiadau amser i brosesu'r cais,” meddai’r adroddiad.
Fe fyddai’r broses arferol “wedi cymryd peth amser ac oherwydd ei fod eisiau bod o gymorth i gyflymu'r broses i'r cwmni, nid oedd wedi dilyn y broses gywir”.
“Dywedodd ei fod bellach yn cydnabod bod hynny'n gamgymeriad,” meddai.
Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Iwan Huws "mewn ffordd a allai ymddangos fel gellwair, y dylai fod wedi taflu ei liniadur i'r Fenai gan na fyddai ei gyflogwr wedi gallu adfer y negeseuon e-bost" i'r cwmni ffilmio yr oedd wedi eu dileu.
Dywedodd nad oedd ganddo unrhyw resymau ariannol dros gyflawni’r twyll ac nad oedd wedi gwneud unrhyw beth tebyg o'r blaen.
Ychwanegodd ei fod "wedi bod yn agos at gael cyfle i ymuno â Chabinet y Cyngor Sir, ond penderfynodd beidio â gwneud hynny, o ystyried y sefyllfa".
'Diffyg parch'
Wrth esbonio eu penderfyniad i wahardd Mr Huws rhag bod yn gynghorydd am dair blynedd, dywedodd Panel Dyfarnu Cymru yn eu hadroddiad bod y ffaith "iddo dorri’r gyfraith a cheisio twyllo ei gyflogwr... a cheisio dwyn arian fyddai’n ddyledus i gyngor tref Biwmares ac i Gyngor Sir Ynys Môn ei hun, yn golygu fod y drosedd yn dangos diffyg parch tuag at y cyhoedd ar sawl lefel".
Ychwanegodd y Panel: "Daethom i’r casgliad nad rhyw foment wan o ymddwyn yn wallgof oedd hon, ond cyfres o ddigwyddiadau lle’r oedd elfen o gynllunio a rhagfwriad, yn cynnwys sicrhau y gallai’r cwmni dalu trwy BACS; sicrhau nad oedd yn amlwg fod y dudalen anfoneb ar goll o’r llyfr a dileu’r ebyst o’i system ei hun.
"Roedd hon yn ymgais ddifrifol o geisio twyllo, yn rhinwedd ei swydd o fewn corff cyhoeddus, yn drosedd ac felly’n dwyn anfri ar yr Atebydd ei hun.
"Er iddo geisio cadw’r drosedd a’r Rhybudd Amodol yn gyfrinachol, mae difrifoldeb y drosedd yn golygu, er mai yn ei gapasiti personol fel swyddog y digwyddodd, ei bod yn dwyn anfri pellach arno fel aelod ac ar y Cyngor Perthnasol."
'Pardduo'
Aiff yr adroddiad yn ei flaen i ddweud mai "dim ond ar 16 Hydref 2025 yr honnodd yr Atebydd i’w enw da gael ei bardduo... Ei brif ddiddordeb yn y broses hon oedd cyfaddef y drosedd a symud ymlaen".
"Fe ddywedodd hynny’n y cyfweliad gyda OGCC ac mae wedi gwneud cymaint ag a allai i sicrhau nad oedd y drosedd yn dod i’r amlwg," meddai'r adroddiad.
"Roedd ei sylwadau yn y cyfweliad gyda’r OGCC (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) y dylai fod wedi taflu’i liniadur i’r Fenai, hyd yn oed os mai jôc oedd y bwriad, yn anaddas ac yn dangos diffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa.
"Mae’n awgrymu mai ceisio celu’r drosedd a symud ymlaen fel petai hi heb ddigwydd oedd y nod. Roedd ei sylw yng nghyfweliad yr OGCC, yn canmol y ffaith nad oedd y stori wedi torri’n gyhoeddus yn ei ardal, gan y byddai hynny’n achosi 'embaras' iddo’n adlewyrchu eto, ddiffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb y drosedd gyflawnodd."
Yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Aberconwy yn 2011, roedd Iwan Huws yn gyn-Brif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri am gyfnod.
Mae wedi gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gorffennol hefyd fel eu cyfarwyddwr dros Gymru.
Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu gyda Mr Huws am ymateb.
