Adroddiad damniol yn taflu goleuni ar gytundebau meddygon teulu eHarley Street
Mae adroddiad newydd wedi taflu goleuni ar fethiannau bwrdd iechyd yn y de i graffu digon cyn dyfarnu cytundebau i bartneriaeth meddygon teulu oedd yn destun cwynion yn ddiweddarach.
Methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan â chraffu ar gyllid a chynlluniau busnes partneriaeth meddygon teulu oedd yn gysylltiedig â chwmni rheoli gofal iechyd yn Sir Gaerlŷr, eHarley Street, meddai adroddiad Archwilio Cymru.
Dyfarnwyd y contractau i ddau feddyg teulu yn ne Cymru dan enw eHarley Street i redeg sawl practis meddygon teulu yn ardal y bwrdd iechyd.
Ym mis Ebrill 2024 roedd y Bartneriaeth, oedd yn gysylltiedig â'r cwmni rheoli ehangach eHarley Street Primary Care Solutions, yn rheoli wyth practis meddygon teulu.
Ond erbyn mis Hydref 2025 roedd y Bartneriaeth wedi trosglwyddo'r contractau ar gyfer pum practis yn ôl i'r Bwrdd Iechyd, yn dilyn cwynion am ddiogelwch a lefelau staffio.
Cafodd y cwmni ei feirniadu gan Eluned Morgan, prif weinidog Cymru ar y pryd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi newid rhai o'i drefniadau comisiynu oherwydd yr hyn ddigwyddodd.
Practisau gwag
Ar adeg gosod y contractau i'r Bartneriaeth, roedd y Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa heriol o orfod rheoli nifer o bractisau gwag.
Dywed yr adrodiad bod y Bartneriaeth wedi rheoli practis yn Llyswyry heb unrhyw bryderon amlwg a hi oedd yr unig gynigydd ar gyfer sawl un o'r contractau.
"Serch hynny, dylai'r Bwrdd Iechyd fod wedi rhoi mwy o ystyriaeth i’r risg sy'n gysylltiedig ag un Bartneriaeth yn ymgymryd â chymaint o bractisau newydd dros gyfnod byr.
"Dylai hefyd fod wedi cynnal mwy o wiriadau diwydrwydd dyladwy ('due dilligence') ar fodel busnes y Bartneriaeth a chraffu’n fanylach ar ei hachosion busnes a'i chynlluniau ariannol."
Er nad oedd unrhyw dystiolaeth o dwyll, roedd y problemau a brofwyd gan y Bartneriaeth "wedi achosi pryderon ariannol i staff a gyflogir gan y Bartneriaeth."
Cafodd y Bartneriaeth fynediad at dros £1 miliwn o gyllid cynaliadwyedd cyn iddynt drosglwyddo pump o'u wyth contract yn ôl i'r Bwrdd Iechyd.
Fe wnaeth hyn osod y Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa heriol "lle bu'n rhaid iddo gymryd cyfrifoldeb dros reoli'r practisau hyn ar rybudd cymharol fyr i ddiogelu darpariaeth gwasanaethau meddygon teulu i'r boblogaeth leol."
Ychwanegodd adrodddiad yr archwilwyr: "Bu goblygiadau cost pellach i'r Bwrdd Iechyd hefyd, ac o bosibl rhywfaint o bryder gan breswylwyr dros barhad eu gwasanaethau meddygon teulu.
"Gyda'i gilydd, mae'r materion hyn wedi arwain at wleidyddion yn y Senedd a San Steffan yn codi pryderon gyda'r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â model gweithredu'r Bartneriaeth a Gwaith y Bwrdd Iechyd yn gosod a rheoli'r contractau gyda'r Bartneriaeth."
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi diwygio rhai o'i drefniadau comisiynu oherwydd y digwyddiadau hyn a'r newidiadau i reoliadau caffael meddai Archwilio Cymru.
Ond mae angen cryfhau prosesau gosod contract ymhellach i leihau'r risg y bydd digwyddiadau tebyg yn digwydd yn y dyfodol yn ôl adroddiad yr archwilwyr.
Ymateb y bwrdd iechyd
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym yn croesawu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ac wedi derbyn ei holl argymhellion, sydd eisoes yn cael eu rhoi ar waith.
“Ein blaenoriaeth drwyddi draw fu cadw gwasanaethau meddygon teulu i redeg yn ddiogel ac yn gyson i gleifion, yn enwedig yn ystod cyfnod o bwysau sylweddol ar feddygfeydd teulu.
"Lle mae meddygfeydd teulu wedi newid dwylo, rydym wedi gweithredu’n gyflym i gynnal gofal a diogelu diogelwch cleifion.
“Mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod canfyddiadau’r adroddiad, er bod contractau wedi’u dyfarnu yn unol â pholisi a rheoliadau cenedlaethol presennol, fod dysgu i’w wneud ac y gellid bod wedi cymhwyso craffu pellach i gynlluniau ariannol a gweithlu, a’r risgiau cronnus sy’n gysylltiedig â dyfarnu contractau lluosog i un bartneriaeth meddygon teulu."
