'Adolygiad o'r newydd' yn y cwest i farwolaeth Joshua Lloyd Roberts

Josh

Fe fydd adolygiad o’r newydd yn cael ei gynnal mewn cwest i farwolaeth Joshua Lloyd Roberts, a fu farw ger Caernarfon yn 2023.

Bu farw Mr Roberts, oedd yn 19 oed, mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ar 2 Mehefin y flwyddyn honno. 

Roedd yn cerdded ar ffordd yr A4085 toc wedi 23.00 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Cafodd y cwest gwreiddiol i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio ym mis Mehefin 2023. 

Nid yw'r cwest llawn i’w farwolaeth wedi’i gynnal, dros dair blynedd yn ddiweddarach.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Crwner yn Rhuthun ddydd Mercher, dywedodd Uwch Grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins, y byddai’n ail-edrych ar y materion yn ymwneud â marwolaeth Mr Roberts.

“Mae’n addas i mi ymdrin â’r materion rhain yn ‘de novo’ (o’r newydd), hynny yw, i ddelio gyda materion yn ffres,” meddai wrth y gwrandawiad.

Fel rhan o’r adolygiad, fe fydd y patholegydd o'r Swyddfa Gartref, Dr Stephen Leadbetter, yn ail-edrych ar y dystiolaeth, gan gynnwys lluniau o’r post mortem a lluniau o gamerâu gweithwyr y gwasanaethau brys o’r lleoliad ar y noson.

Bydd y crwner yn ystyried adroddiadau tocsicoleg, datganiadau gan lygaid dystion a swyddogion yr heddlu o noson y digwyddiad.

Dywedodd y crwner bod Mr Roberts wedi bod yn yfed alcohol ar noson y digwyddiad, ac mae wedi cytuno y byddai’n rhoi ystyriaeth i adroddiadau tyst gan aelodau o'i deulu ynglŷn â’i lefel oddefedd o alcohol.

Roedd eisiau hefyd dod i gasgliad ar union safle corfforol Mr Roberts ar adeg y gwrthdrawiad ac arwyddocâd hynny yn amgylchiadau ei farwolaeth.

13 o dystion

Ar ôl cyfnod o ystyriaeth, clywodd y llys ddatganiad gan Mr Gittins ynglŷn â hyd a lled cylch gorchwyl y cwest.

Dywedodd y byddai 13 o dystion yn cael eu galw i roi tystiolaeth yn y cwest llawn, gan gynnwys y patholegydd Dr Leadbetter.

Bydd Mr Darren Jones, a gafodd ei enwi fel person o ddiddordeb yn yr achos, hefyd ymhlith y tystion fydd yn cael eu galw i roi tystiolaeth.

Dywedodd mai pwrpas y cwest fyddai i ddod i ddyfarniad ynglŷn ag achos meddygol y farwolaeth, nid “i ddyrannu bai neu i benderfynu a oedd unrhyw berson neu gwmni’n gyfrifol.”

Dywedodd y byddai’r cwest llawn yn cael ei gynnal yn Llys y Crwner yn Rhuthun “unwaith y byddai amser y llys a fy amser innau yn caniatau”, ar ôl derbyn adroddiad Dr Leadbetter a gwneud trefniadau ar gyfer tystion.

Mae disgwyl i’r cwest bara tri diwrnod.

Agoriad cwest

Cafodd y cwest gwreiddiol i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio ym Mehefin 2023. 

Dywedodd yr uwch grwner Katie Sutherland ar y pryd fod Mr Roberts wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w ben.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i’r heddlu barhau â’u hymchwiliadau.

Yn ystod ymchwiliad yr heddlu fe gafodd dyn 19 oed, ac yn ddiweddarach dyn 32 oed, eu harestio mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad ond ni chafodd neb eu cyhuddo na'u herlyn.

Roedd Mr Roberts yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn astudio dadansoddi perfformiad chwaraeon.

Roedd hefyd wedi chwarae pêl-droed i dimau Bontnewydd, Caernarfon a’i brifysgol, ac yn gefnogwr brwd o dimau pêl-droed Cymru, Caernarfon ac Everton.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.