Adfer cyflenwadau trydan miloedd o gartrefi wrth baratoi ar gyfer storm arall
Mae cyflenwadau trydan miloedd o gartrefi wedi'u hadfer dros nos ar ôl i Storm Austen daro Cymru ddydd Gwener, ac mae rhybudd melyn ar gyfer Cymru gyfan ddydd Sadwrn wrth i Storm Boelo agosáu.
Mae'r rhybudd melyn am law mewn grym rhwng 11:00 a 23:00.
Storm Austen oedd y cyntaf o'r tymor tywydd garw a darodd Cymru ddydd Gwener, gyda rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar draws rhannau helaeth o Gymru a Lloegr.
Mae’r tywydd garw eisoes wedi arwain at ganslo Marathon Eryri 2026, a oedd i fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn.
Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi canslo rhai gwasanaethau trên ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd garw.
Mae Stena Line, sy’n gweithredu gwasanaeth fferi rhwng Caergybi a Dulyn, hefyd wedi canslo teithiau brynhawn a nos Sadwrn.
Fe wnaeth Storm Austen achosi toriadau trydan a effeithiodd ar filoedd o gartrefi yng Nghymru a Lloegr, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai toriadau tebyg ddigwydd eto mewn rhannau o ogledd y DU dros y penwythnos, wrth i Storm Boelo ddod â thywydd garw.
Dywedodd y Grid Cenedlaethol, sy’n gwasanaethu de Cymru a chanolbarth a de-orllewin Lloegr, nos Wener fod peirianwyr wedi adfer cyflenwad trydan i fwy na 60,000 o gartrefi ers dechrau Storm Austen, sydd bellach wedi symud i’r dwyrain.
Er na fydd y rhybudd oren yn effeithio ar Gymru, mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai adeiladau a choed gael eu difrodi, gan gynnwys teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau a changhennau mawr yn torri neu goed yn cael eu chwythu drosodd.
Gallai’r tywydd hefyd darfu ar wasanaethau trenau, bysiau, awyrennau a llongau, gyda theithiau’n cymryd mwy o amser neu’n cael eu canslo.
Mae siawns fach y bydd rhai ffyrdd a phontydd yn cau, ac y bydd toriadau trydan a allai effeithio ar wasanaethau eraill, gan gynnwys signal ffonau symudol.
Er mai gogledd Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban fydd yn cael eu taro waethaf gan Storm Boelo, mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai effeithiau’r storm gael eu teimlo ar draws y DU.
“Bydd glaw unwaith eto’n ymledu ar draws y DU drwy gydol dydd Sadwrn, gan ddod â diwrnod gwlyb i’r rhan fwyaf o lefydd.” meddai'r Swyddfa Dywydd.
“Erbyn dydd Sul, tra bydd Storm Boelo yn parhau i ddod â gwyntoedd cryfion a glaw trwm ymhellach i’r gogledd, bydd llawer o Gymru a Lloegr yn cael diwrnod sychach ar y cyfan, ond yn wyntog.”