Achos Gwynoro Jones: Cyn-AS yn dweud ei fod wedi cyffwrdd pen-ôl dynes ‘ar ddamwain'

Gwynoro Jones

Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur Gwynoro Jones wedi dweud wrth lys ei fod wedi “cyffwrdd â phen-ôl” dynes “ar ddamwain" gyda’i ffôn symudol tra'n teithio ar drên.

Dywedodd Mr Jones, 83 oed, ei fod yn gwirio tocyn ar gefn ei ffôn pan gerddodd y ddynes am yn ôl i mewn i’w law.

Roedd Mr Jones yn cynrychioli etholaeth Caerfyrddin yn Senedd San Steffan rhwng 1970 a 1974.

Mae’r cyn-AS o ardal Gorseinon ger Abertawe yn wynebu cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar y ddynes ar 16 Gorffennaf 2024.

Clywodd y llys yn Abertawe ddydd Mawrth fod yr ymosodiad rhyw honedig wedi digwydd ar drên Great Western rhwng Llundain ac Abertawe.

Mae’r cyn-wleidydd yn gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn, ac yn dweud y gallai fod wedi ei chyffwrdd yn ddamweiniol.

‘Briwsion’

Wrth i’r amddiffyniad gychwyn ddydd Mawrth, fe roddodd Gwynoro Jones dystiolaeth yn Gymraeg.

Dywedodd ei fod yn teithio ar y trên ar ôl treulio amser yn Northampton gyda’i fab.

Roedd ei sgwrs gyntaf gyda’r achwynydd tu allan i’r trên, pan ofynnodd iddi lle’r oedd y cerbyd dosbarth cyntaf.

Yna, ar y trên, fe wnaeth Mr Jones brynu dwy botel fach o win, rhywbeth y mae “wedi bod yn 'neud ers blynyddau.”

Fe welodd y rheithgor fideo o gamera cylch cyfyng o’r diffynnydd yn gafael ym mraich y ddynes, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol.

Wrth iddi roi tystiolaeth ddydd Llun, dywedodd y ddynes ei bod hi’n teimlo’n “lletchwith ac yn anghyfforddus” pan oedd y diffynnydd wedi gafael yn ei braich.

Dywedodd Mr Jones yn ystod ei dystiolaeth ei fod wedi gafael yn ei braich er mwyn cael gwared â “briwsion o sushi nes i brynu yn Paddington”.

Ychwanegodd fod y briwsion wedi glanio ar ei braich o’i geg tra’r oedd yn siarad gyda hi.

“Beth o’n i’n neud oedd cael gwared ar bwyd oddi ar ei braich hi," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi dechrau sgwrsio gyda hi a gofyn lle’r oedd hi’n byw

“Mae’n draddodiad Cymreig, gorllewin Cymru, gofyn 'where are you from, what do you do, what's your life?

Gwadodd ei fod wedi gofyn cwestiynau personol iddi gan gynnwys os oedd hi’n briod neu gyda chariad.

Wrth gael ei holi gan Kate Williams ar ran y diffynnydd, dywedodd mai “camddigwyddiad llwyr” oedd ei ffôn symudol yn cyffwrdd â phen-ôl y ddynes.

“Dim y’n llaw i gyffyrddodd y fenyw, ond y ffôn mobile, ond digwyddodd y peth mor gyflym," dywedodd.

“A ffôn symudol yn fy law i a hefyd tocyn, lle oedd y tocyn yn cael ei gadw ar gefn y ffôn.

“Fi’n credu syrthiodd y tocyn ond cornel y ffôn symudol cyffyrddodd y wraig.”

Ychwanegodd ei fod wedi ymddiheuro yn syth i’r ddynes.

“Ymddiheures i yn syth, deallais bod rhywbeth wedi digwydd ac fe droiais i a dweud sori, straight away.

“Wrth gwrs taw damwain oedd e.”

Croesholi

Wrth gael ei groesholi gan Georgia Donohue ar ran yr erlyniad, dywedodd Gwynoro Jones ei fod wedi teithio ar wasanaethau trên rhwng Llundain a Chymru “gannoedd” o weithiau.

Dadleuodd Miss Donohue bod y diffynnydd wedi gosod y bwyd ar fraich yr achwynydd gyda’i law.

Anghytunodd gyda hynny, gan ddweud ei fod yn teimlo’n “embarrassed” am y bwyd yn glanio ar ei braich.

Clywodd y llys drawsgrifiad o ran o gyfweliad Mr Jones gyda’r heddlu, lle dywedodd ei fod wedi gafael ym mraich y ddynes er mwyn dal ei sylw.

Wrth ymateb i drawsgrifiad o gyfweliad yr heddlu, dywedodd Mr Jones bod "y transcript ddim 100% yn gywir”.

Wrth gael ei holi a oedd wedi galw’r ferch yn brydferth, dywedodd y diffynnydd nad oedd yn defnyddio'r gair hwnnw i ddisgrifio menywod.

“Dwi ddim yn defnyddio’r gair pretty am neb, pretty flowers yes, ond nid pretty woman… sai’n iwso hwnna.”

Wrth gyfeirio at y digwyddiad lle deimlodd y ddynes Mr Jones yn cyffwrdd a’i phen-ôl, dywedodd Mr Jones ei fod wedi “gweld hi’n dod o bellter."

Dadleuodd Georgia Donohue ar ran yr erlyniad nad oedd Gwynoro Jones yn edrych ar ei ffôn symudol ar y pryd.

“Dwi’n credu fy mod i’n edrych ar y ffôn, allai ddim ateb pan o’n i’n edrych ar fy ffôn ar y foment yna dwy flynedd yn ôl”.

“Cyffyrddais i ddim a’i phen-ôl hi, y ffôn symudol cyffyrddodd ei phen-ôl hi, os allet ti gael bruise mor hawdd a na, sut yn y byd allech chi gael bruise?”

Gwadodd ei fod wedi cyffwrdd ynddi, ei galw hi’n brydferth a bod cymhelliant rhywiol tu ôl i’r digwyddiad.

Areithiau clo 

Yn ei haraith yn cloi dadl yr erlyniad, dywedodd Georgia Donohue bod natur “rywiol” i weithredoedd Gwynoro Jones ar y trên ar 16 Gorffennaf 2024.

“Rydym yn gwybod o’r fideo camera cylch cyfyng fod math o gyffyrddiad... mae’n awgrymu bod hwn yn ddamweiniol.

“Mae fyny i chi benderfynu os oedd hynny’n ddamweiniol, neu os oedd yn fwriadol neu’n rywiol.

“Mae’r erlyniad o’r farn bod Gwynoro Jones wedi ei chyffwrdd ar ei phen ôl… dim ond rhywiol y gallai ei fwriad fod wedi bod ar y foment honno.”

Wrth gloi dadl yr amddiffyniad, dywedodd Kate Williams ei bod yn “amlwg” mai camgymeriad oedd Mr Jones yn cyffwrdd â phen ôl y ddynes

“Ydy hyn wir yn ymosodiad rhyw?”, meddai.

“Yr hyn rydych yn gweld yw hen ddyn yn y bôn, yn rhoi ei fraich allan, ydi hynny’n ymosodiad rhyw?



“Ymddiheurodd achos roedd e’n gamgymeriad, doedd ei weithred ddim yn fwriadol,” meddai Ms Wiilliams.

Cafodd y rheithgor eu hanfon i ystyried eu dyfarniad am 12:54.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.