Aberystwyth: Iawndal o £77,000 i siop deuluol yn dilyn lladrad

Afan Cycles

Bydd siop annibynnol yn Aberystwyth yn derbyn bron i £77,350 mewn iawndal ar ôl i nifer fawr o feiciau trydan gael eu dwyn o’u siop y llynedd. 

Fe wnaeth pedwar o ddynion ddwyn 22 e-beic a beiciau mynydd gwerth tua £90,000 o siop Afan Cycles ar ystâd ddiwydiannol Glanyrafon ar 12 Ebrill 2025. 

Roedd Gareth Corbett, 37, Wayne Draisy, 41, Gavin Johnson, 40, a Keith Johnson, 33 o ddinas Birmingham wedi gwisgo mygydau er mwyn torri mewn i’r siop i ddwyn yr offer, cyn cael eu harestio gan Heddlu Gorllewin Mercia yn ddiweddarach.

Cafodd y pedwar eu carcharu ar 8 Awst 2025 am gyfnod o 30 mis ar gyfer pob cyhuddiad yn eu herbyn, wedi iddynt bledio’n euog i fyrgleriaeth a chynllwynio byrgleriaeth yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Mai 2025. 

Fe fydd perchnogion Afan Cycles bellach yn derbyn £77,348.16 o iawndal drwy asedau’r pedwar a gafodd eu carcharu. 

Os ydyn nhw'n methu â chyflwyno’r iawndal i’r dioddefwyr, fe fyddant yn cael eu carcharu am 18 mis ac yn gorfod gwerthu eu heiddo. 

Ond dywedodd perchnogion Afan Cycles bod eu dyfodol yn parhau i fod yn “ansicr” yn dilyn eu holl golledion. 

Cafodd y busnes ei adeiladu dros gyfnod o saith mlynedd drwy “ymrwymiad, angerdd, a buddsoddiad ariannol sylweddol.” 

Fe wnaeth y drosedd beryglu’r busnes a bywoliaeth aelodau’r staff llawn amser yn ôl y perchennog. 

“Er ein bod yn gwneud ein gorau i ddyfalbarhau, mae colli asedau, staff, incwm, a hyder ein cwsmeriaid wedi gwneud hwn y cyfnod anoddaf i ni erioed ei wynebu," meddai.

Ychwanegodd eu bod yn ddiolchgar i’r heddlu am eu cymorth. 

Dywedodd Helen Kelly o adran arbenigol Heddlu Dyfed-Powys fod y drosedd wedi cael “effaith ddifrifol” ar y siop deuluol. 

“Er na fyddai’n trwsio'r hyn ddigwyddodd, rwy’n gobeithio y gallai’r iawndal eu helpu i ail-adeiladu eu busnes," meddai.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.