Aberaeron: Cyngor wedi gwario dros £47,000 ers cwblhau cynllun atal llifogydd
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwario dros £47,000 yn ychwanegol ar harbwr a thraeth Aberaeron, ar ôl cwblhau cynllun dadleuol gwerth £35.6 miliwn i amddiffyn y dref rhag llifogydd.
Mae ymateb y cyngor i gais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C yn dangos bod carthu ceg yr harbwr wedi costio £35,796.29, gyda £11,214.70 arall wedi’i wario ar ail-lunio’r traeth.
Mae’r cyngor hefyd wedi cadarnhau bod trafodaethau’n parhau gyda’r contractwr am faterion sydd wedi codi ers cwblhau’r cynllun.
Mae'r cyngor wedi gwrthod rhyddhau gohebiaeth ynghylch tywod yn cronni yng ngheg yr harbwr, gan ddweud y gallai ei chyhoeddi niweidio’i allu i negodi.
Roedd y cyngor wedi rhybuddio morwyr am gerrig mân yn cronni wrth fynedfa’r harbwr mor gynnar â mis Mehefin 2025, pan oedd y gwaith adeiladu’n dal i fynd rhagddo.
Roedd arolwg wedi dangos bod gwely’r môr wrth y fynedfa tua metr yn uwch nag yr oedd cyn i’r gwaith ddechrau.
Carthu’r harbwr ddwywaith
Ym mis Ebrill eleni, datgelodd Newyddion S4C fod y cyngor wedi gwario £15,211.78 ar garthu ceg yr harbwr ym mis Chwefror.
Dywedodd y cyngor ar y pryd fod y rhan fwyaf o’r tywod a’r cerrig wedi dod o Draeth y De yn ystod stormydd Amy a Bram.
Cafodd y deunydd ei gludo’n ôl i gryfhau’r traeth o flaen Rhodfa'r Traeth.
Mae’r ymateb diweddaraf yn dangos bod carthu’r harbwr am yr eildro, ym mis Ebrill, wedi costio £20,584.51. Gyda chost ail-lunio’r traeth yr un mis, mae’r cyfanswm yn dod i £47,010.99.
Dywedodd y cyngor nad oes cyllideb benodol ar gyfer cynllun Aberaeron ac y byddai unrhyw waith pellach yn cael ei ariannu o’i gyllideb gyffredinol ar gyfer amddiffyn yr arfordir.
Pan ymatebodd y cyngor ar 20 Tachwedd, roedd yn dal i bennu’r gyllideb honno ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Pryderon am y grwyn wrth Bier y De
Gofynnodd Clwb Pysgota Aberaeron i swyddogion cynllunio’r cyngor ymchwilio ar ôl i grwyn pren wrth Bier y De gael ei dynnu a grwyn cerrig gael ei godi yn ei le.
Yn ôl y clwb, roedd y cynlluniau a gafodd eu cymeradwyo yn dangos y byddai’r grwyn pren yn aros. Roedd y clwb yn pryderu y gallai’r newid olygu bod mwy o raean yn cyrraedd ceg yr harbwr.
Mewn cyfarfod craffu ar 16 Mehefin eleni, dywedodd swyddogion fod y grwyn cerrig yr un hyd â’r hen un pren, ond ei fod yn is.
Roedd gwaith modelu gan Atkins (bellach yn masnachu fel AtkinsRéalis), y cwmni a ddyluniodd y cynllun, wedi rhagweld y byddai rhywfaint o waddod yn symud. Yn ôl y swyddogion, roedd yn anodd rhagweld faint o raean fyddai’n cyrraedd y sianel a pha mor aml.
Roedd y cyngor yn trafod gydag Atkins a oedd angen addasu’r grwyn i leihau faint o raean oedd yn cyrraedd y sianel. Dywedwyd wrth gynghorwyr ym mis Mehefin fod disgwyl i’r cwmni ddod i gasgliad o fewn pedwar i chwe mis.
Trafodaethau gyda’r contractwr
Gofynnodd Newyddion S4C am ohebiaeth rhwng y cyngor a’r cwmnïau oedd yn gweithio ar y cynllun ynghylch tywod yn cronni yng ngheg yr harbwr.
Cadarnhaodd y cyngor fod ganddo ohebiaeth berthnasol, ond gwrthododd ei rhyddhau ar sail cyfrinachedd masnachol o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Dywedodd y cyngor fod y wybodaeth yn “ymwneud â thrafodaethau a negodiadau parhaus rhwng y Cyngor a’r contractwr ynghylch materion sydd wedi codi mewn cysylltiad â Chynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron.”
Ychwanegodd yr awdurdod y gallai rhyddhau’r ohebiaeth ddatgelu safbwyntiau’r ddwy ochr ac y gallai hynny “niweidio gallu’r Cyngor i negodi’n effeithiol.”
BAM UK & Ireland oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu.
Dywedodd llefarydd ar ran BAM UK & Ireland: “Cwblhaodd BAM UK & Ireland y gwaith adeiladu ar gynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Aberaeron yn gynharach eleni. Mae'r gwaith wedi'i gwblhau'n ffurfiol, ac mae'r tystysgrifau perthnasol - sef y dystysgrif cwblhau a'r dystysgrif ar gyfer diwedd y cyfnod diffygion - wedi'u cyhoeddi.
“Dylid cyfeirio cwestiynau sy'n ymwneud â dyluniad y cynllun at y cyngor."
Cyfeiriodd cwmni AtkinsRéalis Newyddion S4C at Gyngor Sir Ceredigion am unrhyw ymholiadau.
Gorwariant o £4 miliwn
Roedd disgwyl i’r cynllun gostio £31.6 miliwn yn wreiddiol.
Ym mis Tachwedd 2025, datgelodd Newyddion S4C fod swyddogion yn disgwyl gorwariant o £4 miliwn. Erbyn y cyfarfod craffu ym mis Mehefin, roedd y cyngor wedi rhoi’r gorwariant yn £4.007 miliwn.
Yn ei ymateb diweddaraf, cadarnhaodd y cyngor nad oedd wedi cael rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cymru i dalu am y gorwariant.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Fe wnaethom ddarparu £26.85 miliwn i Gyngor Sir Ceredigion o’n Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol er mwyn adeiladu cynllun Aberaeron.
“Roedd yr asesiad economaidd ar gyfer yr achos busnes llawn, a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, yn cynnwys costau cynnal a chadw yn y dyfodol ar gyfer y cynllun, yn unol â’r canllawiau ar achosion busnes.
“Fel rhan o delerau ac amodau’r rhaglen, rydym wedi nodi’n glir bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am unrhyw gostau cynnal a chadw yn y dyfodol, ac am unrhyw wariant sy’n fwy na’r gyllideb yn ystod y cyfnod adeiladu.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion am ymateb.