'Gwahanol i unrhyw gêm arall': Abertawe a Chaerdydd i herio ei gilydd am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd
Fe fydd Ashley Williams wrth y llyw i Abertawe ddydd Sul wrth i'r Elyrch groesawu Caerdydd i Stadiwm Swansea.com ar gyfer darbi cyntaf y de ers bron i ddwy flynedd.
Bydd y ddau glwb yn awyddus i ymateb ar ôl colli yn y Bencampwriaeth nos Fawrth, gydag Abertawe yn disgyn tu allan o'r chwech uchaf a Chaerdydd yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn y gynghrair y tymor hwn.
Mae cyn-gapten Cymru, Ashley Williams, yn parhau yn rheolwr dros dro yn Abertawe wedi i Vitor Matos adael y clwb i ymuno â Strasbourg yn Ffrainc yr wythnos diwethaf.
Mae tri o gyn-chwaraewyr eraill yr Elyrch, Joe Allen, Leon Britton a Kristian O'Leary, yn rhan o'i dîm hyfforddi.
I Brian Barry-Murphy, yn y cyfamser, hon fydd ei gêm ddarbi gyntaf fel prif hyfforddwr yr Adar Gleision ers iddo gael ei benodi ym mis Mehefin 2025.
Cyfnod anodd i'r Elyrch
Wedi cyfnodau ar frig tabl y Bencampwriaeth yn gynharach yn y tymor, mae Abertawe wedi llithro i'r wythfed safle ac wedi ennill dim ond un o'u saith gêm gynghrair ddiwethaf.
Mae'r Elyrch wedi colli pump o'r saith gêm hynny ac wedi sicrhau dim ond un pwynt ers ymadawiad Matos.
Daeth gêm gyntaf Williams wrth y llyw i ben yn gyfartal yn erbyn West Bromwich Albion ddydd Sadwrn diwethaf, cyn colli 2-1 yn erbyn arweinwyr y gynghrair, Middlesbrough, nos Fawrth.
Wrth siarad â BBC Sport Wales wedi'r golled honno, dywedodd Williams ei fod yn ymwybodol iawn o arwyddocâd yr ornest ddydd Sul.
"Dwi'n gwybod bod gêm enfawr ar y gorwel, yn amlwg, does dim modd anwybyddu hynny," meddai.
Mae Williams yn gyfarwydd iawn ag awyrgylch darbi'r de, wedi iddo chwarae mewn naw o'r gemau rhwng y ddau glwb yn ystod ei gyfnod fel chwaraewr yn Abertawe.
Caerdydd yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref
Ar ôl sicrhau dyrchafiad o Adran Un y tymor diwethaf, mae Caerdydd wedi cael dechreuad cymysg i'w hymgyrch yn ôl yn ail haen pêl-droed Lloegr.
Mae'r Adar Gleision yn safle 17 yn y gynghrair ac wedi profi cyfnodau heriol, yn enwedig oddi cartref.
Dim ond dau bwynt mae tîm Barry-Murphy wedi eu sicrhau o'u wyth gêm gynghrair oddi cartref, gan golli chwech a chael dwy gêm gyfartal.
Roedd eu record gartref yn llawer mwy calonogol tan nos Fawrth, pan ddaeth Preston North End â'u rhediad o gemau cynghrair heb golli yn Stadiwm Dinas Caerdydd ers mis Mawrth i ben gyda chrasfa o 4-0.
Mae Caerdydd wedi ildio 33 o goliau mewn 17 o gemau cynghrair hyd yma'r tymor hwn, ond mae Barry-Murphy yn gobeithio y bydd yr ornest ddydd Sul yn gyfle i'w chwaraewyr ymateb i'r siom.
Dywedodd ei fod wedi dod i ddeall pwysigrwydd y darbi drwy siarad â chefnogwyr y clwb, a'i fod am sicrhau bod ei chwaraewyr yn deall arwyddocâd yr achlysur hefyd.
"Dydy'r gêm ddim yn mynd i fod fel unrhyw gêm arall y tymor hwn," meddai. "Rydyn ni'n mynd yno i ennill."
Hanes diweddar y darbi
Caerdydd oedd yn fuddugol y tro diwethaf i'r ddau glwb wynebu ei gilydd, gan drechu Abertawe o 3-0 ym mis Ionawr 2025.
Yr Elyrch sydd wedi mwynhau mwy o lwyddiant yn y gemau rhwng y ddau glwb yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ennill saith o'r 10 gornest gynghrair ddiwethaf.
Yn ystod tymor 2021/22, Abertawe oedd y clwb cyntaf yn hanes y darbi i ennill y ddwy gêm gynghrair rhwng y clybiau mewn un tymor, gan ennill 3-0 gartref a 4-0 oddi cartref.
Aeth yr Elyrch ati i ailadrodd y gamp honno'r tymor canlynol, gyda buddugoliaeth ddramatig o 3-2 yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2023.
Daeth rhediad o bedair buddugoliaeth yn olynol i Abertawe yn y darbi i ben ym mis Medi 2023, pan enillodd Caerdydd o 2-0.
Gyda'r ddau glwb yn chwilio am gysondeb yn y Bencampwriaeth, bydd buddugoliaeth ddydd Sul yn gyfle i roi hwb i'w hymgyrchoedd cyn cyfnod prysur y Nadolig.
Bydd y gêm yn cychwyn am 12:00 ddydd Sul.