Carcharu dyn ar ôl iddo ladd cyn-arweinydd cyngor mewn gwrthdrawiad
Mae dyn wedi cael ei garcharu am bedair blynedd ar ôl iddo ladd cyn-arweinydd Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wrth yrru'n beryglus.
Fe wnaeth Zack Mason, 22 oed, fwrw Thomas 'Noel' Crowley, 85 oed, wrth iddo groesi Stryd Water ar 7 Rhagfyr 2024.
Bu farw Thomas Crowley yn yr ysbyty dri diwrnod yn ddiweddarach.
Profodd prawf poer Zack Mason yn bositif am gyffuriau, gyda 2.3 microgram o Delta-9-Tetrahydrocannabinol (canabis) mewn 1 litr o'i waed.
Plediodd y dyn o ardal Traethmelyn (Sandfields), Castell-nedd Port Talbot, yn euog i achosi marwolaeth wrth yrru gyda lefel o ganabis dros y trothwy cyfreithiol, ac achosi marwolaeth wrth yrru cerbyd heb drwydded yrru nac yswiriant.
Cafodd ei drwydded yrru dros dro ei diddymu yn 2022 ar ôl iddo gael ei ddal yn gyrru heb yswiriant.
Yn ogystal â dedfryd o garchar, cafodd ei wahardd rhag gyrru am saith mlynedd, ac bydd rhaid iddo basio prawf estynedig cyn cael trwydded yrru.
Dywedodd PC Luis Tobenas: "Fe wnaeth Zack Mason wneud y penderfyniad i yrru heb yswiriant, heb drwydded yrru ac ar ôl cymryd canabis ar lefel oedd y tu hwnt i'r trothwy cyfreithiol ar gyfer gyrru.
"O ganlyniad, fe fu farw Noel Crowley, gan adael colled fawr i'w deulu a'r gymuned ehangach.
"Bydd rhaid i Mason fyw gyda 'r hyn mae wedi'i wneud am weddill ei fywyd.
"Mae ein meddyliau gyda theulu Mr Crowley, ac rydyn ni’n gobeithio bod y penderfyniad yma wedi rhoi cysur iddyn nhw."
