Dyn wedi marw yn dilyn 'argyfwng meddygol' mewn safle dur yng Nghasnewydd

Mae dyn wedi marw yn dilyn argyfwng meddygol mewn safle dur yng Nghasnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Tata Steel i Lanwern yng Nghasnewydd am tua 15:50 ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau fod gweithiwr yn cael argyfwng meddygol.
Mynychodd aelodau o Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a bu farw dyn 50 oed o Gwmbrân yn y fan a'r lle.
Dywed yr heddlu fod ei deulu'n ymwybodol ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu Gwent yn trafod gyda'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch ac mae adroddiad wedi ei gyflwyno i'r crwner.
Darllenwch fwy yma.