Angladd y Frenhines 'dim y lle' i brotestio yn erbyn y frenhiniaeth
Angladd y Frenhines 'dim y lle' i brotestio yn erbyn y frenhiniaeth
Gydag angladd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ddydd Llun, bydd mesurau diogelwch yn hollbwysig ar gyfer un o'r digwyddiadau mwyaf yn hanes diweddar y Deyrnas Unedig.
Cyhoeddodd y Teulu Brenhinol y byddai'r angladd yn cael ei gynnal ddydd Llun am 11:00 yn Abaty Westminster yn Llundain.
Yn ôl cyn-bennaeth diogelwch Palas Buckingham, Dai Davies, mae maint y digwyddiad o ran mesurau diogelwch yn anferthol.
"I ddechra', 'da ni'n edrych ar ôl y brenin a'i deulu wedyn 'da ni'n edrych ar ôl y visiting royalty - ma' 'na tua 30 ohonyn nhw yn dwad efo'u spouses a'r Emperor o Japan so ma' bob un ohonyn nhw yn cael protection tra ma' nhw yn y wlad. Ma' hynna ar ben'i hun ar dop y Teulu Brenhinol.
"Os fydd hi'n bwrw neu os fydd 'na genllysg, fydd pobl isio mynd i shelter so ar ôl hynna i gyd, 'da ni'n poeni am y terrorism achos 'da ni ar y mid-level o terrorism threat yn y wlad yma a wedyn ma' genna chi'r protestwyr, anti-monarchists ond 'da chi'n gweld fath anfarth o job ydi o."
Yn ôl Mr Davies, mae'r mesurau diogelwch yn rywbeth sydd wedi cael eu cynllunio ers "blynyddoedd."
"O'dd y Frenhines ei hun yn cael rhan yn y planning ond wrth gwrs, ma' bob dim yn newid mor sydyn weithia so fel oedda chi'n gweld yn y procession ddydd Mercher, hwnna o'dd y foundations i'r angladd ddydd Llun.
"Ma' 'na 10,000 o blismyn yn cael eu deployio yn Llundain dros hyn, 'run fath â'r Olympics, angladd Diana so ma' 'na experience ond wrth gwrs, o'dd hwnna 25 o flynyddoedd yn ôl so 'da chi'n gobeithio bydd y generation yma yn gw'bod ei job."
"Mor prowd ydw i fod yn y wlad yma - gella i ddim meddwl am gwlad arall fysa'n medru gadal i Head of State cerddad o flaen pobl."
Ychwanegodd Mr Davies bod yna "amser a lle i brotestio" yn erbyn y frenhiniaeth a nid yn ystod yr angladd yw hynny.
Daw hyn wedi i ddyn gael ei gyhuddo o heclo’r Tywysog Andrew wrth i arch y Frenhines Elizabeth II deithio o Balas Holyrood i Gadeirlan St Giles yng Nghaeredin ddydd Llun.
"Da' chi'n paratoi am y worst ac yn gobeithio fod bob dim am fynd yn dda. Gobeithio neith neb neud protest fel 'da ni 'di gweld. Ma' gen bawb yr hawl ond ma' 'na time and a place a dim mewn procession fel 'ma ydi'r place yn fy marn i."