Cwmni adeiladu Jewson yn cynnal trafodaethau i gau pum safle yng Nghymru
14/09/2022
Mae'r cwmni adeiladu Jewson yn dweud ei fod yn cynnal trafodaethau i gau pum safle yng Nghymru.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud eto.
Fe allai safleoedd Jewson yng Nghaerfyrddin, Y Barri, Crymych, Llandysul a Wrecsam yn cau eu drysau.
Dywedodd y cwmni: "Mae gennym weithwyr gwych a theyrngar yn y safleoedd yma, felly rydym yn gweithio'n agos gyda nhw er mwyn trafod datrysiadau eraill sy'n bosib."