Gwobr o £50,000 am wybodaeth am lofrudd Olivia Pratt-Korbel
Mae elusen yn addo gwobr o £50,000 am unrhyw wybodaeth sy'n arwain at y sawl sy'n gyfrifol am farwolaeth Olivia Pratt-Korbel.
Mae'r cyfraniad ariannol wedi dod gan sylfaenydd a chadeirydd elusen Crimestoppers, Yr Arglwydd Ashcroft.
Bu farw'r ferch naw oed yn ei chartref yn ardal Dovecot o ddinas Lerpwl ar 22 Awst.
Cafodd ei saethu yn ei brest gan saethwr ac fe gafodd ei mam Cheryl hefyd ei saethu yn ei harddwrn wrth iddi geisio achub ei merch.
Dywed Crimestoppers fod aelodau'r gymuned wedi bod yn rhy ofnus i rannu gwybodaeth hyd yma, a'u bod yn gobeithio y bydd y wobr ariannol yn newid hynny.
Mae Crimestoppers yn elusen sy'n annibynnol o'r heddlu ond yn cefnogi'r ymchwiliad drwy gynnig y wobr ariannol.
Mae Heddlu Glannau Mersi yn parhau i ymchwilio i'w marwolaeth, ac yn gofyn i bobl anfon unrhyw ddeunydd fideo a fedrai fod o gymorth i'r ymchwiliad.