Newyddion S4C

Carcharu dyn o Fôn am dwyllo esgorts

North Wales Live 13/09/2022
S4C

Mae dyn wedi ei garcharu am dwyllo esgorts gwrywaidd, ar ôl i sieciau gwerth £13,000 fownsio. 

Cafodd Michael Nathan Goldsmith, 52, o Heol Biwmares, Porthaethwy, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon am gyfanswm o bum mlynedd a chwe mis o dan glo.

Mae’r barnwr hefyd wedi gosod gorchymyn yn gwahardd Goldsmith rhag talu am nwyddau neu wasanaethau gan esgorts neu buteiniaid gyda siec. Mae amodau eraill wedi eu cyflwyno hefyd. 

Clywodd y llys am dri digwyddiad â thri esgort gwrywaidd a gafodd eu talu gan Goldsmith, am eu gwasanaeth drwy siec. Fe wnaeth pob un o’r sieciau fownsio. 

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Goldsmith, hyd y gwyddom ni wedi bod yn cyflawni troseddau twyll am yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae wedi parhau i ysgrifennu sieciau am symiau sylweddol, i dalu am wasanaethau rhyw, tra'n gwybod nad oedd ganddo'r arian."

Rhagor yma. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.