Heddlu'r Met: 'Mae gan y cyhoedd yr hawl i brotestio'

13/09/2022
S4C

Mae Heddlu'r Met wedi datgan bod "gan y cyhoedd yr hawl i brotestio" am y frenhiniaeth.

Daw hyn wedi i ddyn gael ei gyhuddo o heclo’r Tywysog Andrew wrth i arch y Frenhines Elizabeth II deithio o Balas Holyrood i Gadeirlan St Giles yng Nghaeredin ddydd Llun.

Yn ogystal, fe gafodd fideo ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun yn dangos swyddog heddlu yn gofyn am fanylion dyn a oedd yn cario papur gwyn gwag gyda'r bwriad o ysgrifennu "Nid fy Mrenin i" arno.  

Mae'r swyddog yn cael ei glywed yn dweud "na fyddai rhai pobl yn hoffi'r neges yma."

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu'r Met, Stuart Cundy, "fod gan y cyhoedd hawl i brotestio ac rydym ni wedi bod yn gwneud hyn yn glir i'n holl swyddogion ni sydd yn rhan o'r ymgyrch blismona fawr a byddwn yn parhau i wneud hyn."

Pwysleisiodd y llu bod y "mwyafrif helaeth o ddigwyddiadau rhwng swyddogion a'r cyhoedd yn y cyfnod yma wedi bod yn gadarnhaol, gan bod pobl wedi ymgynnull yn Llundain er mwyn rhoi teyrnged i Ei Mawrhydi y Frenhines."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.